Esra 1:1-11 BCN1988 - Bible AI

1Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a ddaeth trwy Jeremeia, cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus, a chyhoeddodd ddatganaid trwy ei holl deyrnas ac ysgrifennu:

2Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tu375? iddo yn Jerwsalem yn Jwda.

3Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i ailadeiladu tu375? ARGLWYDD Dduw Israel, y Duw sydd yn Jerwsalem.

4Pob un a arbedwyd, ple bynnag y mae'n byw, bydded iddo gael cymorth gan ei gymdogion mewn arian ac aur ac offer ac anifeiliaid, yn ogystal ag offrwm gwirfoddol i du375? Dduw yn Jerwsalem."

5Yna dechreuodd pennau-teuluoedd Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, pob un a symbylwyd gan Dduw, baratoi i fynd i ailadeiladu tu375?'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.

6Cawsant gefnogaeth eu holl gymdogion gyda llestri arian ac aur, ac offer ac anifeiliaid ac anrhegion gwerthfawr, at y cwbl a roed yn wirfoddol.

7Cyflwynodd y Brenin Cyrus lestri tu375?'r ARGLWYDD a ddygwyd gan Nebuchadnesar o Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduwiau, a rhoddodd hwy i Mithredath y trysorydd;

8rhestrodd yntau hwy ar gyfer Sesbassar, llywodraethwr Jwda.

9A dyma'r rhestr: dysglau aur, tri deg; dysglau arian, mil; thuserau, dau ddeg a naw;

10cawgiau aur, tri deg; cawgiau arian, pedwar cant a deg; llestri eraill, mil.

11Cyfanswm y llestri aur ac arian, pum mil a phedwar cant. A daeth Sesbassar �'r cwbl gydag ef pan ddychwelodd y gaethglud o Fabilon i Jerwsalem.

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>