1Tra oedd Esra'n gwedd�o yn ei ddagrau, yn cyffesu ar ei hyd o flaen tu375? Dduw, ymgasglodd tyrfa fawr iawn o Israeliaid ato, yn wu375?r, gwragedd a phlant, ac yr oedd y bobl yn wylo'n hidl.
2Yna dywedodd Sechaneia fab Jehiel, o deulu Elam, wrth Esra, "Yr ydym wedi troseddu yn erbyn ein Duw trwy briodi merched estron o blith pobloedd y wlad; eto y mae gobaith i Israel er gwaethaf hyn.
3Yn awr gadewch i ni wneud cyfamod �'n Duw i droi ymaith yr holl ferched hyn a'u plant, yn �l cyngor f'arglwydd a'r rhai sy'n parchu gorchymyn ein Duw; a byddwn felly'n cadw'r gyfraith.
4Cod, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi; gweithreda'n wrol."
5Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr yr offeiriaid a'r Lefiaid ac i holl Israel addo hyn, a gwnaethant hwythau addewid.
6Aeth Esra o du375?'r Arglwydd i ystafell Johanan fab Eliasib, ac aros yno heb fwyta bara nac yfed du373?r am ei fod yn dal i alaru am gamwedd y rhai a ddaeth o'r gaethglud.
7Yna anfonwyd neges trwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i bawb a fu yn y gaethglud ymgynnull yn Jerwsalem,
8a byddai pob un na dd�i o fewn tridiau ar wu375?s y penaethiaid a'r henuriaid yn colli ei gyfoeth ac yn cael ei dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.
9O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd holl wu375?r Jwda a Benjamin i Jerwsalem, ac eisteddodd pawb yn y sgw�r o flaen tu375? Dduw yn crynu o achos yr hyn oedd yn digwydd ac o achos y glawogydd.
10Cododd Esra yr offeiriad a dweud wrthynt, "Yr ydych wedi gwneud camwedd ac wedi ychwanegu at euogrwydd Israel trwy briodi merched estron.
11Yn awr cyffeswch gerbron ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid; gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth bobloedd y wlad a'r merched estron."
12Atebodd yr holl gynulleidfa � llais uchel, "Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn.
13Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.
14Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym."
15Yr unig wrthwynebwyr oedd Jonathan fab Asahel ac Eseia fab Ticfa, a chawsant gefnogaeth Mesulam a Sabethai y Lefiad.
16Wedi i'r rhai oedd wedi bod yn y gaethglud gytuno, fe neilltuodd Esra yr offeiriad ddynion oedd yn bennau-teuluoedd i gynrychioli eu teuluoedd wrth eu henwau. Eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis i archwilio'r mater,
17ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.
18Ymysg meibion yr offeiriaid oedd wedi priodi merched estron yr oedd y canlynol: Maseia, Elieser, Jarib a Gedaleia o deulu Jesua fab Josadac a'i frodyr.
19Gwnaethant addewid i ysgaru eu gwragedd ac offrymasant hwrdd o'r praidd am eu trosedd.
20O feibion Immer: Hanani a Sebadeia.
21O feibion Harim: Maseia, Eleia, Semaia, Jehiel ac Usseia.
22O feibion Pasur: Elioenai, Maseia, Ismael, Nethaneel, Josabad ac Elasa.
23o'r Lefiaid: Josabad, Simei a Chelaia (hynny yw, Celita), Pethaheia, Jwda ac Elieser.
24o'r cantorion: Eliasib. o'r porthorion: Salum, Telem ac Uri.
25O Israel, o feibion Paros: Rameia, Jeseia, Malcheia, Miamin, Eleasar, Malcheia a Benaia.
26O feibion Elam: Mataneia, Sechareia, Jehel, Abdi, Jeremoth ac Eleia.
27O feibion Sattu: Elioenai, Eliasib, Mataneia, Jeremoth, Sabad ac Asisa.
28O feibion Bebai: Jehohanan, Hananeia, Sabai ac Athlai.
29O feibion Bani: Mesulam, Maluch, Adaia, Jasub, Seal a Ramoth.
30O feibion Pahath-moab: Adna, Celal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, Binnui a Manasse.
31O feibion Harim: Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,
32Benjamin, Maluch a Semareia.
33O feibion Hasum: Matenai, Matatha, Sabad, Eliffelet, Jeremai, Manasse a Simei.
34O feibion Bani: Maadai, Amram, Uel,
35Benaia, Bedeia, Celu,
36Faneia, Meremoth, Eliasib,
37Mataneia, Matenai, Jasau,
38Bani, Binnui, Simei,
39Selemeia, Nathan, Adaia,
40Machnadebai, Sasai, Sarai,
41Asareel, Selemeia, Semareia,
42Salum, Amareia a Joseff.
43O feibion Nebo: Jeiel, Matitheia, Sabad, Sebina, Jadue, Joel a Benaia.
44Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi merched estron, ond troesant hwy allan, yn wragedd a phlant.