Esra 5:1-17 BCN1988 - Bible AI

1Ond wedi i'r proffwydi, Haggai a Sechareia fab Ido, broffwydo yn enw Duw Israel i'r Iddewon yn Jwda a Jerwsalem,

2dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ailadeiladu tu375? Dduw yn Jerwsalem; ac yr oedd proffwydi Duw gyda hwy yn eu cefnogi.

3Ond ar unwaith daeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr atynt a gofyn, "Pwy a roes ganiat�d i chwi ailadeiladu'r tu375? hwn a gorffen ei goedio?"

4Gofynasant hefyd, "Beth yw enwau'r rhai sy'n codi'r adeilad hwn?"

5Ond yr oedd eu Duw yn gofalu am henuriaid yr Iddewon, ac ni chawsant eu rhwystro nes i adroddiad fynd at Dareius ac iddynt gael ateb ar y mater.

6Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, at y Brenin Dareius.

7A dyma'r adroddiad ysgrifenedig a anfonwyd: "I'r Brenin Dareius, cyfarchion!

8Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tu375?'r Duw mawr yn cael ei adeiladu � cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon.

9Yna gofynasom i'r henuriaid, 'Pwy a roes ganiat�d i chwi ailadeiladu'r tu375? hwn a gorffen ei goedio?'

10Gofynasom hefyd iddynt am eu henwau fel y medrem gofnodi enwau eu harweinwyr a rhoi gwybod i ti.

11A dyma'r ateb a gawsom: 'Gweision Duw nef a daear ydym ni, ac yr ydym yn ailadeiladu tu375? a godwyd lawer o flynyddoedd yn �l; un o frenhinoedd enwog Israel a'i cododd a'i orffen.

12Ond am i'n hynafiaid ddigio Duw'r nefoedd, rhoddodd ef hwy i Nebuchadnesar y Caldead, brenin Babilon; dinistriodd yntau'r tu375? hwn a chaethgludo'r bobl i Fabilon.

13Ond ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad, rhoes Cyrus brenin Babilon orchymyn i ailadeiladu'r tu375? hwn.

14Yr oedd llestri aur ac arian yn perthyn i du375? Dduw; dygodd Nebuchadnesar hwy o'r deml yn Jerwsalem a'u rhoi yn nheml Babilon, ond cymerodd y Brenin Cyrus hwy o'r deml ym Mabilon a'u rhoi i u373?r o'r enw Sesbassar, a oedd wedi ei benodi'n llywodraethwr.

15Dywedodd wrtho, "Cymer y llestri yma, a dos � hwy i'r deml sydd yn Jerwsalem, a bydded i du375? Dduw gael ei adeiladu ar ei hen safle."

16Yna daeth Sesbassar a gosod sylfeini tu375? Dduw yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.'

17Felly, os cytuna'r brenin, chwilier yn yr archifau brenhinol ym Mabilon i weld a roes y Brenin Cyrus orchymyn i ailadeiladu'r deml hon yn Jerwsalem. Anfoner i ni ddyfarniad y brenin ynglu375?n �'r mater."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>