Esra 6:1-22 BCN1988 - Bible AI

1Yna, ar orchymyn y Brenin Dareius, chwiliwyd yn yr archifau ym Mabilon lle cedwid y dogfennau.

2Ac ym mhalas Ecbatana yn nhalaith Media cafwyd sgr�l, a dyma'r cofnod oedd wedi ei ysgrifennu arni:

3Ym mlwyddyn gyntaf ei deyrnasiad gorchmynnodd y Brenin Cyrus fel hyn am du375? Dduw yn Jerwsalem: Ailadeilader y tu375? yn lle i aberthu ac i ddwyn poethoffrymau.

4Ei uchder fydd trigain cufydd a'i led trigain cufydd, gyda thair rhes o gerrig mawr ac un rhes o goed newydd; taler y gost o'r drysorfa frenhinol.

5Hefyd, dychweler i'r deml yn Jerwsalem lestri aur ac arian tu375? Dduw, a ddygodd Nebuchadnesar o'r deml yn Jerwsalem a'u cludo i Fabilon; dychweler pob un i'w le priodol yn nhu375? Dduw."

6A dyfarniad y Brenin Dareius oedd: "Yn awr, Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Seth-arbosnai a'ch cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, cadwch draw oddi yno;

7peidiwch ag ymyrryd � gwaith tu375? Dduw; gadewch i bennaeth yr Iddewon a'u henuriaid ailgodi tu375? Dduw ar ei hen safle.

8Ar fy ngorchymyn i, fel hyn yr ydych i gydweithredu � henuriaid yr Iddewon i ailadeiladu tu375? Dduw: taler yn llawn ac yn ddiymdroi i'r dynion hyn dreth talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates allan o'r drysorfa frenhinol.

9Rhodder iddynt bob dydd yn ddi-feth beth bynnag sy'n angenrheidiol i aberthu i Dduw'r nefoedd � teirw, hyrddod, defaid, gwenith, halen, gwin ac olew �

10yn �l gofynion yr offeiriaid yn Jerwsalem, fel y dygont ebyrth cymeradwy i Dduw'r nefoedd a gwedd�o dros y brenin a'i feibion.

11Ac yr wyf yn gorchymyn, os bydd i unrhyw un ymyrryd �'r datganiad hwn, fod trawst i'w dynnu o'i du375? a'i godi, a'i fod yntau i'w grogi arno, a bod ei gartref i'w droi'n domen.

12A bydded i'r Duw sydd wedi gosod ei enw yno ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n beiddio ymyrryd � hyn neu'n dinistrio tu375?'r Duw hwn yn Jerwsalem. Myfi, Dareius, sy'n rhoi'r gorchymyn hwn; rhaid ei gadw'n fanwl."

13Yna gwnaeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr yn union fel yr oedd y Brenin Dareius wedi gorchymyn.

14Trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai'r proffwyd a Sechareia fab Ido, llwyddodd henuriaid yr Iddewon gyda'r adeiladu, a'i orffen yn �l gorchymyn Duw Israel a gorchymyn Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia.

15Gorffennwyd y tu375? hwn ar y trydydd o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius.

16A chysegrwyd tu375? Dduw mewn llawenydd gan yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud.

17Wrth gysegru tu375? Dduw, aberthwyd cant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o u373?yn, a deuddeg bwch gafr, yn �l nifer llwythau Israel, yn aberth dros bechod ar ran holl Israel.

18Trefnwyd yr offeiriaid yn eu dosbarthiadau a'r Lefiaid yn eu hadrannau ar gyfer gwasanaethu Duw yn Jerwsalem, fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr Moses.

19Ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf cadwodd y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud y Pasg.

20Am fod pob un o'r offeiriaid a'r Lefiaid wedi ei buro'i hun, a'u bod i gyd yn bur, aberthwyd y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u cyd-offeiriaid a hwy eu hunain.

21Bwytawyd y Pasg gan yr Israeliaid a ddychwelodd o'r gaethglud a chan bawb oedd wedi ymwahanu oddi wrth aflendid y bobloedd oddi amgylch ac wedi dod atynt i geisio ARGLWYDD Dduw Israel.

22Ac am saith diwrnod cadwasant u373?yl y Bara Croyw mewn llawenydd, oherwydd i'r ARGLWYDD beri llawenydd iddynt trwy droi calon brenin Asyria tuag atynt i'w cynorthwyo yng ngwaith tu375? Dduw, Duw Israel.

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>