Esther 2:1-23 BCN1988 - Bible AI

1Wedi'r pethau hyn, pan liniarodd llid y Brenin Ahasferus, fe gofiodd am Fasti a'r hyn a wnaeth, ac am yr hyn a ddyfarnwyd amdani.

2Dywedodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin, "Chwilier am wyryfon ifainc hardd i'r brenin.

3Bydded i'r brenin ethol swyddogion ym mhob talaith o'i deyrnas i gasglu pob gwyryf ifanc hardd i Susan y brifddinas; yna rhodder hwy yn nhu375?'r gwragedd o dan ofal Hegai, eunuch y brenin sy'n gofalu am y gwragedd, a rhodder iddynt eu hoffer coluro.

4Bydded i'r ferch sy'n ennill ffafr y brenin ddod i'r orsedd yn lle Fasti." Yr oedd y syniad yn dderbyniol gan y brenin, ac fe wnaeth felly.

5Yr oedd Iddew yn byw yn Susan y brifddinas o'r enw Mordecai fab Jair, fab Simei, fab Cis, gu373?r o Benjamin.

6Yr oedd wedi ei gymryd o Jerwsalem i'r gaethglud gyda Jechoneia brenin Jwda, a gaethgludwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon.

7Yr oedd ef wedi mabwysiadu ei gyfnither Hadassa, sef Esther, am ei bod yn amddifad. Yr oedd hi'n ferch deg a phrydferth; a phan fu farw ei thad a'i mam, mabwysiadodd Mordecai hi'n ferch iddo'i hun.

8Pan gyhoeddwyd gair a gorchymyn y brenin a chasglu llawer o ferched ifainc i'r palas yn Susan o dan ofal Hegai, daethpwyd ag Esther i du375?'r brenin a oedd yng ngofal Hegai, ceidwad y gwragedd.

9Yr oedd y ferch yn dderbyniol yn ei olwg, a chafodd ffafr ganddo. Trefnodd iddi gael ar unwaith ei hoffer coluro a'i dogn bwyd, a rhoddodd iddi saith o forynion golygus o du375?'r brenin, a'i symud hi a'i morynion i le gwell yn nhu375?'r gwragedd.

10Nid oedd Esther wedi s�n am ei chenedl na'i thras, am i Mordecai orchymyn iddi beidio.

11Bob dydd �i Mordecai heibio i gyntedd tu375?'r gwragedd er mwyn gwybod sut yr oedd Esther, a beth oedd yn digwydd iddi.

12Ar ddiwedd deuddeg mis, sef y cyfnod o baratoi a osodwyd ar gyfer y gwragedd � chwe mis gydag olew a myrr, a chwe mis gyda pheraroglau ac offer coluro'r gwragedd � d�i tro pob merch i fynd at y Brenin Ahasferus.

13Pan dd�i'r ferch at y brenin fel hyn, c�i fynd � beth bynnag a fynnai gyda hi o du375?'r gwragedd i balas y brenin.

14�i allan gyda'r hwyr, a dychwelyd yn y bore i ail du375?'r gwragedd o dan ofal Saasgas, eunuch y brenin a ofalai am y gordderchwragedd; ni fyddai'n mynd eilwaith at y brenin oni bai iddo ef ei chwennych a galw amdani wrth ei henw.

15Pan ddaeth tro Esther, y ferch a fabwysiadwyd gan Mordecai am ei bod yn ferch i'w ewythr Abihail, i fynd i mewn at y brenin, ni ofynnodd hi am ddim ond yr hyn a awgrymodd Hegai, eunuch y brenin a cheidwad y gwragedd; ac yr oedd Esther yn cael ffafr yng ngolwg pawb a'i gwelai.

16Aethpwyd ag Esther i mewn i'r palas at y Brenin Ahasferus yn y degfed mis, sef Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad.

17Carodd y brenin Esther yn fwy na'r holl wragedd, a dangosodd fwy o ffafr a charedigrwydd tuag ati hi na thuag at yr un o'r gwyryfon eraill; rhoddodd goron frenhinol ar ei phen a'i gwneud yn frenhines yn lle Fasti.

18Yna gwnaeth y brenin wledd fawr i'w holl dywysogion a'i weision er mwyn anrhydeddu Esther; hefyd cyhoeddodd u373?yl ym mhob talaith, a rhannu anrhegion yn hael.

19Pan ddaeth y gwyryfon at ei gilydd yr ail waith, yr oedd Mordecai'n eistedd ym mhorth llys y brenin.

20Nid oedd Esther wedi s�n am ei thras na'i chenedl, fel y gorchmynnodd Mordecai iddi; yr oedd hi'n derbyn cynghorion Mordecai, fel y gwn�i pan oedd yn ei magu.

21Yr adeg honno, pan oedd Mordecai'n eistedd ym mhorth y brenin, yr oedd Bigthan a Theres, dau eunuch i'r Brenin Ahasferus oedd yn gofalu am y porth, wedi digio ac yn cynllwyn i ymosod ar y brenin.

22Daeth Mordecai i wybod am hyn, a dywedodd wrth y Frenhines Esther; dywedodd hithau wrth y brenin yn enw Mordecai.

23Chwiliwyd yr achos a chafwyd ei fod yn wir; felly crogwyd y ddau ar bren. Ysgrifennwyd yr hanes yn llyfr y cronicl yng ngu373?ydd y brenin.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>