1Felly aeth y brenin a Haman i wledda gyda'r Frenhines Esther.
2Ac ar yr ail ddiwrnod, tra oeddent yn yfed gwin, dywedodd y brenin unwaith eto wrth Esther, "Frenhines Esther, beth yw dy ddymuniad? Fe'i cei. Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei."
3Atebodd y Frenhines Esther, "Os cefais ffafr yn dy olwg, ac os gw�l y brenin yn dda, fy nghais a'm dymuniad yw fy mod i a'm pobl yn cael ein harbed.
4Oherwydd yr wyf fi a'm pobl wedi ein gwerthu i'n dinistrio a'n lladd a'n difa. Pe baem wedi ein gwerthu'n gaethweision ac yn gaethferched, ni ddywedwn i ddim; oherwydd ni fyddai ein trafferthion ni i'w cymharu � cholled y brenin."
5Dywedodd y Brenin Ahasferus wrth y Frenhines Esther, "Pwy yw'r un a feiddiodd wneud y fath beth, a pha le y mae?"
6Meddai hithau, "Y gelyn a'r gwrthwynebwr yw'r Haman drwg hwn." Brawychwyd Haman yng ngu373?ydd y brenin a'r frenhines.
7Cododd y brenin yn ei lid, a mynd o'r wledd i ardd y palas; ond arhosodd Haman i ymbil �'r Frenhines Esther am ei einioes, oherwydd gwelodd fod y brenin wedi penderfynu dial arno.
8Pan ddych-welodd y brenin o'r ardd i'r lle yr oeddent yn gwledda, yr oedd Haman yn plygu wrth y gwely lle'r oedd Esther. Meddai'r brenin, "A yw hefyd am dreisio'r frenhines, a minnau yn y tu375??" Cyn gynted ag y dywedodd y brenin hyn, gorchuddiwyd wyneb Haman.
9Yna dywedodd Harbona, un o'r eunuchiaid oedd yn gweini ar y brenin, "Y mae'r crocbren hanner can cufydd o uchder, a wnaeth Haman ar gyfer Mordecai, y gu373?r a achubodd y brenin �'i neges, yn sefyll ger tu375? Haman." Dywedodd y brenin, "Crogwch ef arno."
10Felly crogwyd Haman ar y crocbren a barat�dd ar gyfer Mordecai. Yna lliniarodd llid y brenin.