1Clywodd Jethro, offeiriad yn Midian a thad-yng-nghyfraith Moses, am y cyfan a wnaeth Duw i Moses ac i'w bobl Israel, ac fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu harwain allan o'r Aifft.
2Wedi i Moses yrru ymaith ei wraig Seffora, rhoddodd Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, gartref iddi hi
3a'i dau fab. Gersom oedd enw'r naill: "Oherwydd," meddai, "b�m yn ddieithryn mewn gwlad ddieithr."
4Ac Elieser oedd enw'r llall: "Oherwydd," meddai, "bu Duw fy nhad yn gymorth imi, ac fe'm hachubodd rhag cleddyf Pharo."
5Daeth Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, � meibion Moses a'i wraig ato i'r anialwch lle'r oedd yn gwersyllu wrth fynydd Duw,
6a dweud wrth Moses, "Yr wyf fi, Jethro dy dad-yng-nghyfraith, wedi dod atat gyda'th wraig a'i dau fab."
7Aeth yntau allan i'w gyfarch, ac ymgrymu a'i gusanu; yna ar �l iddynt gyfarch ei gilydd, aethant i mewn i'r babell.
8Adroddodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD i Pharo a'r Eifftiaid er mwyn Israel, a'r holl helbul a gawsant ar y ffordd, ac fel yr achubodd yr ARGLWYDD hwy.
9Llawenychodd Jethro oherwydd yr holl bethau da a wnaeth yr ARGLWYDD i Israel trwy eu hachub o law'r Eifftiaid,
10a dywedodd, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a'ch achubodd o law'r Eifftiaid ac o law Pharo.
11Gwn yn awr fod yr ARGLWYDD yn fwy na'r holl dduwiau, oherwydd fe achubodd y bobl o law'r Eifftiaid a fu'n eu trin yn drahaus."
12Yna cyflwynodd Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, boethoffrwm ac ebyrth i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gydag ef ym mhresenoldeb Duw.
13Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr.
14Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, "Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?"
15Atebodd Moses ef, "Am fod y bobl yn dod ataf i ymgynghori � Duw.
16Pan fydd achos yn codi, fe dd�nt ataf fi i mi farnu rhwng pobl a'i gilydd, a datgan deddfau Duw a'i gyfreithiau."
17Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho, "Nid dyma'r ffordd orau iti weithredu.
18Byddi di a'r bobl sydd gyda thi wedi diffygio'n llwyr; y mae'r gwaith yn rhy drwm iti, ac ni elli ei gyflawni dy hun.
19Gwrando'n awr arnaf fi, ac fe'th gynghoraf, a bydded Duw gyda thi. Ti sydd i gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a dod �'u hachosion ato ef.
20Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud.
21Ond ethol o blith yr holl bobl wu375?r galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn cas�u llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.
22Boed iddynt hwy farnu'r bobl ar bob achlysur; gallent ddod � phob achos anodd atat ti, ond hwy eu hunain sydd i farnu pob achos syml. Bydd yn ysgafnach arnat os byddant hwy'n rhannu'r baich � thi.
23Os gwnei hyn, a hynny ar orchymyn Duw, gelli ddal ati; ac fe �'r bobl hyn i gyd adref yn fodlon."
24Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith, a gwnaeth bopeth a orchmynnodd ef.
25Dewisodd wu375?r galluog o blith yr holl Israeliaid a'u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg.
26Hwy oedd yn barnu'r bobl ar bob achlysur; deuent �'r achosion dyrys at Moses, ond hwy eu hunain oedd yn barnu'r holl achosion syml.
27Ffarweliodd Moses �'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro adref i'w wlad ei hun.