Exodus 20:1-26 BCN1988 - Bible AI

1Llefarodd Duw yr holl eiriau hyn, a dweud:

2Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o du375? caethiwed.

3Na chymer dduwiau eraill ar wah�n i mi.

4Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y du373?r dan y ddaear;

5nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghas�u,

6ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.

7Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.

8Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig.

9Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith,

10ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth;

11oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y m�r a'r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd; am hynny, bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth a'i gysegru.

12Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.

13Na ladd.

14Na odineba.

15Na ladrata.

16Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

17Na chwennych du375? dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog."

18Pan welodd yr holl bobl y taranau a'r mellt, yr utgorn yn seinio a'r mynydd yn mygu, safasant o hirbell mewn petruster,

19a dweud wrth Moses, "Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid � gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw."

20Dywedodd Moses wrthynt, "Peidiwch ag ofni, oherwydd fe ddaeth Duw i'ch profi, er mwyn ichwi ddal i'w barchu ef, a pheidio � phechu."

21Safodd y bobl o bell, ond nesaodd Moses at y tywyllwch lle'r oedd Duw.

22Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Fel hyn y dywedi wrth bobl Israel: 'Gwelsoch i mi lefaru wrthych o'r nefoedd.

23Peidiwch � gwneud duwiau o arian nac o aur i'w haddoli gyda mi.

24Gwna imi allor o bridd, ac abertha arni dy boethoffrymau a'th heddoffrymau, dy ddefaid a'th ychen; yna mi ddof atat i'th fendithio ym mha le bynnag y coffeir fy enw.

25Ond os gwnei imi allor o gerrig, paid �'i gwneud o gerrig nadd; oherwydd wrth iti ei thrin �'th forthwyl, yr wyt yn ei halogi.

26Hefyd, paid � mynd i fyny i'm hallor ar risiau, rhag iti amlygu dy noethni.'