Exodus 21:1-36 BCN1988 - Bible AI

1Dyma'r deddfau yr wyt i'w gosod o flaen y bobl:

2Pan bryni Hebr�wr yn gaethwas, y mae i roi chwe blynedd o wasanaeth, ac yn y seithfed caiff fynd yn rhydd heb dalu.

3Os daeth i mewn ei hun, caiff fynd ymaith ei hun, ond os oedd yn briod, caiff ei wraig fynd ymaith gydag ef.

4Os rhydd ei feistr wraig iddo, a hithau'n esgor ar feibion neu ferched iddo, bydd y wraig a'i phlant yn eiddo i'r meistr, ac y mae'r caethwas i fynd ymaith ei hun.

5Ond os dywed y caethwas, 'Yr wyf yn caru fy meistr a'm gwraig a'm plant, ac nid wyf am fynd ymaith',

6yna y mae ei feistr i ddod ag ef at Dduw, a'i ddwyn at y drws neu'r cilbost, a thyllu trwy ei glust � mynawyd; wedyn, bydd y caethwas yn ei wasanaethu am byth.

7Pan yw gu373?r yn gwerthu ei ferch i gaethiwed, ni chaiff hi fynd yn rhydd fel y gweision caeth.

8Os nad yw'n boddhau ei meistr, ac yntau wedi ei neilltuo iddo'i hun, gadawer iddi gael ei phrynu'n �l; ond nid oes ganddo'r hawl i'w gwerthu i estroniaid, gan ei fod wedi torri cytundeb � hi.

9Os yw wedi ei neilltuo ar gyfer ei fab, y mae i'w thrin fel ei ferch ei hun.

10Os yw'r meistr yn priodi gwraig arall, nid yw i leihau dim ar fwyd y gaethferch na'i dillad na'i hawliau priodasol.

11Os yw'n methu yn un o'r tri pheth hyn, caiff y gaethferch fynd ymaith heb dalu dim arian.

12Pwy bynnag sy'n taro rhywun a'i ladd, rhodder ef i farwolaeth.

13Os na chynlluniodd hynny, ond bod Duw wedi ei roi yn ei afael, caiff ffoi i'r lle a neilltuaf iti.

14Os bydd rhywun yn ymosod yn fwriadol ar ei gymydog a'i ladd trwy frad, dos ag ef ymaith oddi wrth fy allor a'i roi i farwolaeth.

15Pwy bynnag sy'n taro'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16Pwy bynnag sy'n cipio rhywun i'w werthu neu i'w gadw yn ei feddiant, rhodder ef i farwolaeth.

17Pwy bynnag sy'n melltithio'i dad neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

18Pan yw rhai'n cweryla, ac un yn taro'r llall � charreg neu �'i ddwrn, a hwnnw'n gaeth i'w wely, ond heb farw,

19ac yna'n codi ac yn cerdded oddi amgylch �'i ffon, ystyrier y sawl a'i trawodd yn ddieuog; nid oes rhaid iddo ond ei ddigolledu am ei waith, a gofalu ei fod yn holliach.

20Pan yw rhywun yn taro'i gaethwas neu ei gaethferch � ffon, a'r caeth yn marw yn y fan, cosber y sawl a'i tarodd.

21Ond os yw'r caeth yn byw am ddiwrnod neu ddau, na fydded cosbi, oherwydd ei eiddo ef ydyw.

22Pan yw dynion wrth ymladd �'i gilydd yn taro gwraig feichiog, a hithau'n colli ei phlentyn, ond heb gael niwed pellach, y mae'r dyn i dalu'r ddirwy sy'n ddyledus i'w gu373?r ac a bennwyd gan y barnwyr.

23Ond os bu niwed pellach, yr wyt i hawlio bywyd am fywyd,

24llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25llosgiad am losgiad, clwyf am glwyf, a chlais am glais.

26Pan yw rhywun yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, a'i ddifetha, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y llygad.

27Os yw'n taro allan ddant ei gaethwas neu ei gaethferch, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y dant.

28Pan yw ych yn cornio gu373?r neu wraig i farwolaeth, llabyddier yr ych, ac nid yw ei gig i'w fwyta; ond ystyrier y perchennog yn ddieuog.

29Ond os bu'r ych yn cornio yn y gorffennol, a'r perchennog wedi ei rybuddio ond eto heb gadw'r ych dan reolaeth, a hwnnw'n lladd gu373?r neu wraig, llabyddier yr ych a rhoi ei berchennog i farwolaeth.

30Os pennir pridwerth, y mae i dalu am ei fywyd yn llawn yn �l y pridwerth a bennir.

31Os yw'r ych yn cornio mab neu ferch, y mae'r un rheol yn dal.

32Os yw'r ych yn cornio caethwas neu gaethferch, y mae ei berchennog i dalu i'r meistr ddeg sicl ar hugain o arian, ac y mae'r ych i'w labyddio.

33Pan yw rhywun yn gadael pydew ar agor, neu'n cloddio pydew a heb ei gau, ac ych neu asyn yn syrthio iddo,

34y mae perchen y pydew i wneud iawn amdano trwy dalu arian i berchen yr anifail; ond ei eiddo ef fydd yr anifail marw.

35Pan yw ych rhywun yn cornio ac yn lladd ych ei gymydog, yna y maent i werthu'r ych byw, a rhannu'r arian a geir amdano; y maent hefyd i rannu'r ych marw.

36Ond os yw'n hysbys fod yr ych wedi cornio yn y gorffennol, a'i berchennog heb ei gadw dan reolaeth, y mae ef i dalu'n �l yn llawn, a rhoi ych am ych; ond ei eiddo ef fydd yr anifail marw.