1Os yw rhywun yn lladrata ych neu ddafad ac yn ei ladd neu ei werthu, y mae i dalu'n �l bum ych am yr ych, a phedair dafad am y ddafad.
2Os bydd rhywun yn dal lleidr yn torri i mewn, ac yn ei daro a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed;
3ond os yw'n ei ddal ar �l i'r haul godi, fe fydd yn euog o'i waed. "Y mae lleidr i dalu'n �l yn llawn, ac os nad oes dim ganddo, y mae ef ei hun i'w werthu am ei ladrad.
4Os ceir yn fyw ym meddiant lleidr anifail wedi ei ddwyn, boed yn ych neu'n asyn neu'n ddafad, y mae'r lleidr i dalu'n �l ddwbl ei werth.
5Pan yw rhywun yn gadael ei faes neu ei winllan i'w pori, ac yna'n gyrru ei anifail i bori ym maes rhywun arall, y mae i dalu'n �l o'r pethau gorau sydd yn ei faes a'i winllan ei hun.
6Pan yw t�n yn torri allan ac yn cydio mewn drain ac yn difa ysgubau u375?d, neu u375?d heb ei fedi, neu faes, y mae'r sawl a gyneuodd y t�n i dalu'n �l yn llawn.
7Pan yw rhywun yn rhoi i'w gymydog arian neu ddodrefn i'w cadw iddo, a'r rheini'n cael eu lladrata o'i du375?, y mae'r lleidr, os delir ef, i dalu'n �l yn ddwbl.
8Os na ddelir y lleidr, dyger perchennog y tu375? o flaen Duw i weld a estynnodd ei law at eiddo'i gymydog ai peidio.
9Mewn unrhyw achos o drosedd ynglu375?n ag ych, asyn, dafad, dilledyn, neu unrhyw beth coll y mae rhywun yn dweud mai ei eiddo ef ydyw, dyger achos y ddau o flaen Duw; ac y mae'r sawl y bydd Duw yn ei gael yn euog i dalu'n �l yn ddwbl i'w gymydog.
10Pan yw rhywun yn rhoi asyn, ych, dafad, neu unrhyw anifail i'w gymydog i'w gadw iddo, a'r anifail yn marw, neu'n cael ei niweidio, neu ei gipio ymaith, heb i neb ei weld,
11y mae'r naill i dyngu i'r llall yn enw'r ARGLWYDD nad yw wedi estyn ei law at eiddo'i gymydog; y mae'r perchennog i dderbyn hyn, ac nid yw'r llall i dalu'n �l.
12Ond os cafodd ei ladrata oddi arno, y mae i dalu'n �l i'r perchennog.
13Os cafodd ei larpio, y mae i ddod �'r corff yn dystiolaeth, ac nid yw i dalu'n �l am yr hyn a larpiwyd.
14Pan yw rhywun yn benthyca anifail gan ei gymydog, a hwnnw'n cael ei niweidio, neu'n marw heb i'w berchennog fod gydag ef, y mae'r sawl a'i benthyciodd i dalu'n �l yn llawn.
15Ond os oedd ei berchennog gydag ef, nid yw i dalu'n �l; os oedd ar log, yna'r llog sy'n ddyledus.
16Pan yw rhywun yn hudo gwyryf nad yw wedi ei dywedd�o, ac yn gorwedd gyda hi, y mae i roi gwaddol amdani, a'i chymryd yn wraig.
17Ond os yw ei thad yn gwrthod yn llwyr ei rhoi iddo, y mae i dalu arian sy'n gyfwerth �'r gwaddol am wyryf.
18Paid � gadael i ddewines fyw.
19Pwy bynnag sy'n gorwedd gydag anifail, rhodder ef i farwolaeth.
20Pwy bynnag sy'n aberthu i unrhyw dduw heblaw'r ARGLWYDD yn unig, distrywier ef yn llwyr.
21Paid � gwneud cam �'r estron, na'i orthrymu, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft.
22Peidiwch � cham-drin y weddw na'r amddifad.
23Os byddwch yn eu cam-drin a hwythau'n galw arnaf, byddaf yn sicr o glywed eu cri.
24Bydd fy nicter yn cael ei gyffroi, ac fe'ch lladdaf �'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.
25Pan fenthyci arian i unrhyw un o'm pobl sy'n dlawd yn eich plith, paid ag ymddwyn tuag ato fel y gwna'r echwynnwr, a phaid � mynnu llog ganddo.
26Os cymeri fantell dy gymydog yn wystl, yr wyt i'w rhoi'n �l iddo cyn machlud haul,
27oherwydd dyna'r unig orchudd sydd ganddo, a dyna'r wisg sydd am ei gorff; beth arall sydd ganddo i gysgu ynddo? Os bydd yn galw arnaf fi, fe wrandawaf arno am fy mod yn drugarog.
28Paid � chablu Duw, na melltithio pennaeth o blith dy bobl.
29Paid ag oedi offrymu o'th ffrwythau aeddfed neu o gynnyrch dy winwryf. "Yr wyt i gyflwyno i mi dy fab cyntafanedig.
30Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th ychen a'th ddefaid; bydded pob un gyda'i fam am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd cyflwyner ef i mi.
31Byddwch yn ddynion wedi eu cysegru i mi, a pheidiwch � bwyta cig dim sydd wedi ei ysglyfaethu yn y maes; yn hytrach, taflwch ef i'r cu373?n.