Exodus 25:1-40 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.

3Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;

4sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,

5crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,

6olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

7meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

8Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.

9Yr ydych i'w wneud yn unol �'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.

10Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.

11Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.

12Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.

13Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,

14a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.

15Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;

16yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.

17Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;

18gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.

19Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.

20Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, �'u hwynebau tua'r drugareddfa.

21Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.

22Yno byddaf yn cyfarfod � thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.

23Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,

24a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.

25Gwna ffr�m o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffr�m.

26Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.

27Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffr�m yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.

28Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.

29Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.

30Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.

31Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.

32Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.

33Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.

34Ar y canhwyllbren ei hun, bydd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt,

35a bydd un o'r cnapiau dan bob p�r o'r chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.

36Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.

37Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.

38Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.

39Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.

40Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn �l y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.