Exodus 27:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Gwna allor sgw�r o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder.

2Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti.

3Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll t�n, pob un ohonynt o bres.

4Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith.

5Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor.

6Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt.

7Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.

8Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.

9Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;

10bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

11Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

12Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, � deg colofn a deg troed.

13Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd.

14Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, � thair colofn a thri throed,

15a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, � thair colofn a thri throed.

16Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed.

17Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres.

18Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, � llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres.

19Pres hefyd fydd pob un o'r llestri ar gyfer holl wasanaeth y tabernacl, a phob un o'r hoelion a fydd yn y tabernacl a'r cyntedd.

20Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur wedi ei wasgu o'r olifiau ar gyfer y lamp, er mwyn iddi losgi'n ddi-baid.

21Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.