Exodus 30:1-38 BCN1988 - Bible AI

1Gwna allor o goed acasia ar gyfer llosgi arogldarth.

2Bydd yn sgw�r, yn gufydd o hyd a chufydd o led a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.

3Goreura hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwna ymyl aur o'i hamgylch.

4Gwna hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.

5Gwna'r polion o goed acasia, a goreura hwy.

6Gosod yr allor o flaen y gorchudd sydd wrth arch y dystiolaeth, ac o flaen y drugareddfa ar yr arch; yno byddaf yn cyfarfod � thi.

7Bydd Aaron yn llosgi arogldarth peraidd arni bob bore wrth baratoi'r lampau,

8ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau.

9Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch � thywallt diodoffrwm arni.

10Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud � gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD."

11Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

12Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad.

13Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad i roi'n offrwm i'r ARGLWYDD hanner sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.

14Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hu375?n i roi offrwm i'r ARGLWYDD.

15Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl, wrth i chwi roi offrwm i'r ARGLWYDD er cymod dros eich bywyd.

16Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd."

17Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

18Gwna noe bres, � throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi du373?r ynddi

19i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.

20Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agos�u at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn t�n i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi �'r du373?r, rhag iddynt farw.

21Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau."

22Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses,

23Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd,

24a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden.

25Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio.

26Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth,

27y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth,

28allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.

29Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda � hwy hefyd yn gysegredig.

30Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid.

31Yna dywed wrth bobl Israel, 'Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau.

32Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych.

33Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.'"

34Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd �'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un,

35a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru � halen i'w wneud yn bur a chysegredig.

36Cura beth ohono'n f�n a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod � thi; bydd yn gysegredig iawn gennych.

37Peidiwch � gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD.

38Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl."