Exodus 32:1-35 BCN1988 - Bible AI

1Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dod i lawr o'r mynydd, daethant ynghyd at Aaron a dweud wrtho, "Cod, gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddig-wyddodd i'r Moses hwn a ddaeth � ni i fyny o wlad yr Aifft."

2Dywedodd Aaron wrthynt, "Tynnwch y tlysau aur sydd ar glustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch � hwy ataf fi."

3Felly tynnodd yr holl bobl eu clustlysau aur, a daethant � hwy at Aaron.

4Cymerodd yntau y tlysau ganddynt, ac wedi eu trin � chu375?n, gwnaeth lo tawdd ohonynt. Dywedodd y bobl, "Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth � thi i fyny o wlad yr Aifft."

5Pan welodd Aaron y llo tawdd, adeiladodd allor o'i flaen a chyhoeddodd, "Yfory bydd gu373?yl i'r ARGLWYDD."

6Trannoeth codasant yn gynnar ac offrymu poethoffrymau, a dod � heddoffrymau; yna eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, ac ymroi i gyfeddach.

7Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dos i lawr, oherwydd y mae'r bobl y daethost � hwy i fyny o wlad yr Aifft wedi eu halogi eu hunain.

8Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, 'Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth � thi i fyny o wlad yr Aifft.'"

9Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn;

10yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr."

11Ymbiliodd Moses �'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, "O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft � nerth mawr ac � llaw gadarn?

12Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, '� malais yr aeth � hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a'u difa oddi ar wyneb y ddaear'? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i'th bobl.

13Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, 'Amlhaf eich disgynyddion fel s�r y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.'"

14Yna bu'n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i'w bobl.

15Trodd Moses, a mynd i lawr o'r mynydd � dwy lech y dystiolaeth yn ei law, llechau ag ysgrifen ar y ddau wyneb iddynt.

16Yr oedd y llechau o waith Duw, ac ysgrifen Duw wedi ei cherfio arnynt.

17Pan glywodd Josua su373?n y bobl yn bloeddio, dywedodd wrth Moses, "Y mae su373?n rhyfel yn y gwersyll."

18Ond meddai yntau, "Nid su373?n gorchfygwyr yn bloeddio na rhai a drechwyd yn gweiddi a glywaf fi, ond su373?n canu."

19Pan ddaeth yn agos at y gwersyll, a gweld y llo a'r dawnsio, gwylltiodd Moses, a thaflu'r llechau o'i ddwylo a'u torri'n deilchion wrth droed y mynydd.

20Cymerodd y llo a wnaethant, a'i losgi � th�n; fe'i malodd yn llwch a'i gymysgu � du373?r, a gwnaeth i bobl Israel ei yfed.

21Dywedodd Moses wrth Aaron, "Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, i beri iti ddwyn arnynt y fath bechod?"

22Atebodd Aaron ef: "Paid � digio, f'arglwydd; fe wyddost am y bobl, eu bod �'u bryd ar wneud drygioni.

23Dywedasant wrthyf, 'Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth � ni i fyny o wlad yr Aifft'.

24Dywedais innau wrthynt, 'Y mae pawb sydd � thlysau aur ganddynt i'w tynnu i ffwrdd'. Rhoesant yr aur i mi, ac fe'i teflais yn y t�n; yna daeth y llo hwn allan."

25Gwelodd Moses fod y bobl yn afreolus, a bod Aaron wedi gadael iddynt fynd felly, a'u gwneud yn waradwydd ymysg eu gelynion.

26Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, "Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi." Ymgasglodd holl feibion Lefi ato,

27a dywedodd wrthynt, "Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: 'Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn �l a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.'"

28Gwnaeth meibion Lefi yn �l gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl.

29Dywedodd Moses, "Heddiw yr ydych wedi'ch ordeinio i'r ARGLWYDD, pob un ar draul ei fab a'i frawd, er mwyn iddo ef eich bendithio'r dydd hwn."

30Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, "Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod."

31Dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD a dweud, "Och! Y mae'r bobl hyn wedi pechu'n ddirfawr trwy wneud iddynt eu hunain dduwiau o aur.

32Yn awr, os wyt am faddau eu pechod, maddau; ond os nad wyt, dilea fi o'r llyfr a ysgrifennaist."

33Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Y sawl a bechodd yn f'erbyn a ddileaf o'm llyfr.

34Yn awr, dos, ac arwain y bobl i'r lle y dywedais wrthyt, a bydd fy angel yn mynd o'th flaen. Ond fe ddaw dydd pan ymwelaf � hwy am eu pechod."

35Anfonodd yr ARGLWYDD bla ar y bobl am yr hyn a wnaethant �'r llo a luniodd Aaron.