Exodus 34:1-35 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Nadd ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, ac fe ysgrifennaf arnynt y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a dorraist.

2Bydd barod erbyn y bore, a thyrd i fyny'n gynnar i Fynydd Sinai, ac aros amdanaf yno ar ben y mynydd.

3Nid oes neb i ddod i fyny gyda thi, nac i ymddangos yn unman ar y mynydd; a phaid � gadael i ddefaid na gwartheg bori ar gyfyl y mynydd hwn."

4Felly naddodd Moses ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, a chododd yn fore ac aeth i fyny i Fynydd Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo, a chymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

5Disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, a safodd yno gydag ef, a chyhoeddi ei enw, ARGLWYDD.

6Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: "Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb;

7yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid."

8Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli.

9Yna dywedodd, "Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti."

10Dywedodd yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngu373?ydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud � thi beth syfrdanol.

11Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.

12Gwylia rhag iti wneud cyfamod � thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti.

13Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst.

14Paid ag ymgrymu i dduw arall, oherwydd

15Eiddigeddus yw enw'r ARGLWYDD, a Duw eiddigeddus ydyw. Paid � gwneud cyfamod � thrigolion y wlad rhag iddynt, wrth buteinio ar �l eu duwiau ac aberthu iddynt, dy wahodd dithau i fwyta o'u haberth,

16ac i gymryd eu merched i'th feibion; a rhag i'w merched, wrth iddynt buteinio ar �l eu duwiau, wneud i'th feibion buteinio ar �l eu duwiau hwy.

17Paid � gwneud i ti ddelwau tawdd.

18Cadw u373?yl y Bara Croyw. Yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, fel y gorchmynnais iti, oherwydd ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.

19Eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth, y cyntafanedig o'th holl anifeiliaid gwryw, yn wartheg ac yn ddefaid.

20Yr wyt i gyfnewid cyntafanedig asyn am oen, ac os na fyddi'n ei gyfnewid, tor ei wddf. Yr wyt i gyfnewid pob cyntafanedig o'th feibion. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.

21Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, boed yn amser aredig neu yn gynhaeaf.

22Cadw hefyd u373?yl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gu373?yl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.

23Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw, Duw Israel, deirgwaith y flwyddyn.

24Byddaf finnau'n gyrru cenhedloedd allan o'th flaen ac yn estyn dy derfynau, rhag i neb chwennych dy dir pan fyddi'n ymddangos deirgwaith y flwyddyn o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw.

25Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid � chadw aberth gu373?yl y Pasg dros nos hyd y bore.

26Yr wyt i ddod �'r gorau o flaenffrwyth dy dir i du375?'r ARGLWYDD dy Dduw. "Paid � berwi myn yn llaeth ei fam."

27Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Ysgrifenna'r geiriau hyn, oherwydd yn �l y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod � thi ac ag Israel."

28Bu Moses yno gyda'r ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, heb fwyta bara nac yfed du373?r, ac ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gorchymyn.

29Pan ddaeth Moses i lawr o Fynydd Sinai gyda dwy lech y dystiolaeth yn ei law, ni wyddai fod croen ei wyneb yn disgleirio ar �l iddo siarad � Duw.

30Pan welodd Aaron a holl bobl Israel fod croen wyneb Moses yn disgleirio, yr oedd arnynt ofn dod yn agos ato.

31Ond galwodd Moses arnynt, a throdd Aaron a holl arweinwyr cynulliad Israel ato, a siaradodd Moses � hwy.

32Yna daeth holl bobl Israel ato, a gorchmynnodd iddynt yr holl bethau yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu dweud wrtho ar Fynydd Sinai.

33Pan orffennodd Moses siarad � hwy, rhoddodd orchudd ar ei wyneb,

34ond pan fyddai'n mynd o flaen yr ARGLWYDD i siarad ag ef, byddai'n tynnu'r gorchudd nes iddo ddod allan, ac wedi dod allan, byddai'n dweud wrth bobl Israel yr hyn a orchmynnwyd iddo.

35A phan welent hwy fod croen ei wyneb yn disgleirio, byddai Moses yn rhoi'r gorchudd yn �l ar ei wyneb nes y byddai'n mynd i mewn eto i siarad � Duw.