Exodus 37:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.

2Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

3Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.

4Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,

5a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.

6Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.

7Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,

8a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.

9Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, �'u hwynebau tua'r drugareddfa.

10Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.

11Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.

12Gwnaeth ffr�m o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffr�m.

13Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.

14Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffr�m yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.

15Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.

16Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.

17Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.

18Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.

19Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.

20Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt;

21ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob p�r o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.

22Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.

23Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.

24Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.

25Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgw�r, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.

26Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

27Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.

28Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro.

29Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.