1Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
2Gwnaeth yr effod o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
3Curodd yr aur yn ddolennau tenau a'u torri'n stribedi i'w plethu'n gywrain i mewn i'r sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac i'r lliain main.
4Gwnaethant ar gyfer yr effod ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr.
5Yr oedd y gwregys arni wedi ei wn�o'n gywrain, ac o'r un deunydd �'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu; felly'r oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6Cymerasant feini onyx a'u trin, a'u gosod mewn edafwaith o aur, a naddu arnynt enwau meibion Israel, fel y bydd gemydd yn naddu s�l.
7Gosododd hwy ar ysgwyddau'r effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
8Gwnaeth y ddwyfronneg o grefftwaith cywrain; fe'i gwnaeth, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
9Yr oedd yn sgw�r ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
10Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
11yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
12yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
13yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; yr oeddent i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
14Yr oedd deuddeg maen wedi eu henwi ar �l meibion Israel; yr oedd pob un fel s�l ag enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
15Gwnaethant ar gyfer y ddwyfronneg gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
16a hefyd ddau edafwaith aur, a dau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
17Rhoddwyd y ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,
18a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.
19Yna gwnaethant ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.
20Gwnaethant hefyd ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod, ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.
21Rhwymasant fachau'r ddwyfronneg wrth fachau'r effod � llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22Gwnaeth fantell yr effod i gyd yn frodwaith o sidan glas,
23a thwll yn ei chanol, gyda gwn�ad o'i amgylch, fel a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.
24Gwnaethant o amgylch godre'r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi ei nyddu.
25Gwnaethant hefyd glychau o aur pur,
26a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
27Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion;
28gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau
29a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30Gwnaethant bl�t y goron gysegredig o aur pur, ac argraffu arno, fel ar s�l, "Sanctaidd i'r ARGLWYDD";
31a chlymwyd ef ar flaen y benwisg � llinyn glas; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
32Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; ac yr oedd pobl Israel wedi gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
33Daethant �'r tabernacl at Moses, sef y babell a'i holl lestri, y bachau, y fframiau, y barrau, y colofnau, y traed;
34y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd;
35arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa;
36y bwrdd a'i holl lestri, a'r bara gosod;
37y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd �'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau;
38yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;
39yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
41y gwisgoedd wedi eu gwn�o'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig Aaron a'i feibion, iddynt wasanaethu fel offeiriaid.
42Yr oedd pobl Israel wedi gwneud yr holl waith yn union fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
43Gwelodd Moses eu bod wedi gwneud yr holl waith fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, a bendithiodd Moses hwy.