Exodus 6:1-30 BCN1988 - Bible AI

1Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; � llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad."

2Dywedodd Duw hefyd wrth Moses, "Myfi yw'r ARGLWYDD.

3Ymddangosais i Abraham, Isaac a Jacob fel Duw Hollalluog, ac nid oeddent yn fy adnabod wrth fy enw, ARGLWYDD.

4Hefyd, gwneuthum gyfamod � hwy i roi iddynt wlad Canaan, lle buont yn byw fel estroniaid;

5a phan glywais riddfan yr Israeliaid oedd dan orthrwm yr Eifftiaid, cofiais fy nghyfamod.

6Felly, dywed wrth yr Israeliaid, 'Myfi yw'r ARGLWYDD, ac fe'ch rhyddhaf o orthrwm yr Eifftiaid a'ch gwaredu o'ch caethiwed, a'ch achub � braich estynedig ac � gweithredoedd nerthol o farn.

7Fe'ch cymeraf yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw i chwi; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch rhyddhaodd o orthrwm yr Eifftiaid.

8Fe'ch dygaf i'r wlad yr addewais ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob, ac fe'i rhoddaf yn eiddo i chwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"

9Mynegodd Moses hyn wrth bobl Israel, ond nid oeddent hwy'n barod i wrando arno oherwydd eu digalondid a'u caethiwed caled.

10Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

11Dos i ddweud wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad."

12Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Nid yw pobl Israel wedi gwrando arnaf; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf, a minnau � nam ar fy lleferydd?"

13Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, a rhoi gorchymyn iddynt ynglu375?n � phobl Israel a Pharo brenin yr Aifft, er mwyn rhyddhau'r Israeliaid o wlad yr Aifft.

14Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwythau eu tadau. Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi; dyna deuluoedd Reuben.

15Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar a Saul, mab i wraig o Ganaan; dyna deuluoedd Simeon.

16Dyma enwau meibion Lefi yn �l eu cenedlaethau: Gerson, Cohath a Merari; bu Lefi fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.

17Meibion Gerson: Libni a Simei, yn �l eu teuluoedd.

18Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel; bu Cohath fyw am gant tri deg a thair o flynyddoedd.

19Meibion Merari: Mahli a Musi; dyna deuluoedd Lefi yn �l eu cenedlaethau.

20Priododd Amram � Jochebed, chwaer ei dad, ac esgorodd hi ar Aaron a Moses; bu Amram fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd.

21Meibion Ishar: Cora, Neffeg a Sicri.

22Meibion Ussiel: Misael, Elsaffan a Sithri.

23Priododd Aaron ag Eliseba, merch i Aminadab a chwaer i Nahason; esgorodd hi ar Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar.

24Meibion Cora: Assir, Elcana, ac Abiasaff; dyna deuluoedd y Corahiaid.

25Priododd Eleasar, mab Aaron, ag un o ferched Putiel, ac esgorodd hi ar Phineas. Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwyth y Lefiaid, yn �l eu teuluoedd.

26Dyma'r Aaron a'r Moses y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, "Dygwch yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft, yn �l eu lluoedd."

27Dyma hefyd y Moses a'r Aaron a ddywedodd wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'r Aifft.

28Pan lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwlad yr Aifft,

29dywedodd wrtho, "Myfi yw'r ARGLWYDD; dywed wrth Pharo brenin yr Aifft y cyfan yr wyf yn ei ddweud wrthyt."

30Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Y mae nam ar fy lleferydd; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf?"

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>