Galarnad 1:1-22 BCN1988 - Bible AI

1O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl! Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw, a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.

2Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos, a dagrau ar ei gruddiau; nid oes ganddi neb i'w chysuro o blith ei holl gariadon; y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu, ac wedi troi'n elynion iddi.

3Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod ac mewn gorthrwm mawr; y mae'n byw ymysg y cenhedloedd, ond heb gael lle i orffwys; y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd yng nghanol ei gofidiau.

4Y mae ffyrdd Seion mewn galar am nad oes neb yn dod i'r gwyliau; y mae ei holl byrth yn anghyfannedd, a'i hoffeiriaid yn griddfan; y mae ei merched ifainc yn drallodus, a hithau mewn chwerwder.

5Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni, a llwyddodd ei gelynion, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni o achos amlder ei throseddau; y mae ei phlant wedi mynd ymaith yn gaethion o flaen y gelyn.

6Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd oddi wrth ferch Seion; y mae ei thywysogion fel ewigod sy'n methu cael porfa; y maent wedi ffoi, heb nerth, o flaen yr erlidwyr.

7Yn nydd ei thrallod a'i chyni y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau oedd ganddi yn y dyddiau gynt. Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr, heb neb i'w chynorthwyo, edrychodd ei gwrthwynebwyr arni a chwerthin o achos ei dinistr.

8Pechodd Jerwsalem yn erchyll; am hynny fe aeth yn ffieidd-dra. Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmygu am iddynt weld ei noethni; y mae hithau'n griddfan ac yn troi draw.

9Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad; nid ystyriodd ei thynged. Yr oedd ei chwymp yn arswydus, ac nid oedd neb i'w chysuro. Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod, oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.

10Estynnodd y gelyn ei law i gymryd ei holl drysorau; yn wir, gwelodd hi y cenhedloedd yn dod i'w chysegr � rhai yr oeddit ti wedi eu gwahardd yn dod i mewn i'th gynulliad!

11Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfan wrth iddynt chwilio am fara; yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwyd i'w cynnal eu hunain. Edrych, O ARGLWYDD, a gw�l, oherwydd euthum yn ddirmyg.

12Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio? Edrychwch a gwelwch; a oes gofid fel y gofid a osodwyd yn drwm arnaf, ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnaf yn nydd ei lid angerddol?

13Anfonodd d�n o'r uchelder, a threiddiodd i'm hesgyrn; gosododd rwyd i'm traed, a'm troi'n �l; gwnaeth fi yn ddiffaith ac yn gystuddiol trwy'r dydd.

14Clymwyd fy nhroseddau amdanaf; plethwyd hwy �'i law ei hun; gosododd ei iau ar fy ngwddf, ac ysigodd fy nerth; rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhai na allaf godi yn eu herbyn.

15Diystyrodd yr Arglwydd yr holl ryfelwyr oedd ynof; galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn, i ddifetha fy ngwu375?r ifainc; fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda.

16O achos hyn yr wyf yn wylo, ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau, oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuro ac yn fy nghynnal; y mae fy mhlant wedi eu hanrheithio am fod y gelyn wedi gorchfygu.

17Estynnodd Seion ei dwylo, ond nid oedd neb i'w chysuro; gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynion amgylchynu Jacob o bob cyfeiriad; yr oedd Jerwsalem wedi mynd yn ffieidd-dra yn eu mysg.

18Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn, ond gwrthryfelais yn erbyn ei air. Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd, ac edrychwch ar fy nolur: aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.

19Gelwais ar fy nghariadon, ond y maent hwy wedi fy mradychu; trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas, wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.

20Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae f'ymysgaroedd mewn poen, a'm calon wedi cyffroi, oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf. o'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad; yn y tu375?, nid oes dim ond marwolaeth.

21Gwrandewch pan wyf yn griddfan, heb neb i'm cysuro. Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb, a llawenhau am iti wneud hyn; ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist, a byddant hwythau fel finnau.

22Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw, a dwg gosb arnynt, fel y cosbaist fi am fy holl droseddau; oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml, a'm calon yn gystuddiol.

>