Galarnad 2:1-22 BCN1988 - Bible AI

1o'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwydd ar ferch Seion yn ei ddig! Bwriodd ogoniant Israel o'r nefoedd i'r llawr, ac ni chofiodd am ei droedfainc yn nydd ei ddicter.

2Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbed holl drigfannau Jacob; yn ei ddigofaint dinistriodd amddiffynfeydd merch Jwda; taflodd i lawr a difwynodd y deyrnas a'i phenaethiaid.

3Yn angerdd ei ddig torrodd gyrn Israel i gyd; tynnodd yn �l ei ddeheulaw wrth i'r gelyn ymosod; llosgodd yn Jacob fel fflam d�n yn difa popeth o'i hamgylch.

4Fel gelyn parat�dd ei fwa, safodd �'i ddeheulaw'n barod, ac fel gwrthwynebwr fe laddodd y cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad; tywalltodd ei lid fel t�n ar babell merch Seion.

5Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elyn ac wedi difetha Israel; difethodd ei holl balasau, a dinistrio'i hamddiffynfeydd; gwnaeth i alar a gofid gynyddu i ferch Jwda.

6Chwalodd ei babell fel chwalu gardd, a dinistrio'r man cyfarfod; gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofio ei gu373?yl a'i Saboth; yn angerdd ei lid dirmygodd frenin ac offeiriad.

7Gwrthododd yr Arglwydd ei allor, a ffieiddio'i gysegr; rhoddodd furiau ei phalasau yn llaw'r gelyn; gwaeddasant hwythau yn nhu375?'r ARGLWYDD fel ar ddydd gu373?yl.

8Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynol o ddinistrio mur merch Seion; gosododd linyn mesur arni, ac ni thynnodd yn �l ei law rhag difetha. Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru; aethant i gyd yn wan.

9Suddodd ei phyrth i'r ddaear; torrodd a maluriodd ef ei barrau. Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd, ac nid oes cyfraith mwyach; ni chaiff ei phroffwydi weledigaeth gan yr ARGLWYDD.

10Y mae henuriaid merch Seion yn eistedd yn fud ar y ddaear, wedi taflu llwch ar eu pennau a gwisgo sachliain; y mae merched ifainc Jerwsalem wedi crymu eu pennau i'r llawr.

11Dallwyd fy llygaid gan ddagrau; y mae f'ymysgaroedd mewn poen. Yr wyf yn tywallt fy nghalon allan o achos dinistr merch fy mhobl, ac am fod plant a babanod yn llewygu yn strydoedd y ddinas.

12Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau, "Ple cawn ni rawn a gwin?" � wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedig yn strydoedd y ddinas, ac wrth iddynt ymladd am eu bywyd ym mynwes eu mamau.

13Beth allaf ei ddweud o'th blaid, a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem? I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur, y forwyn, ferch Seion? Y mae dy ddolur mor ddwfn �'r m�r, pwy a all dy iach�u?

14Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi yn gelwyddog a thwyllodrus; ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd er mwyn adfer dy lwyddiant; yr oedd yr oraclau a roddasant iti yn gelwyddog a chamarweiniol.

15Y mae pob un sy'n mynd heibio yn curo'i ddwylo o'th achos; y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau ar ferch Jerwsalem: "Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch, ac yn llawenydd yr holl ddaear?"

16Y mae dy holl elynion yn gweiddi'n groch yn dy erbyn, yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd; dywedant, "Yr ydym wedi ei difetha; dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano; yr ydym wedi cael ei weld!"

17Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd; cyflawnodd ei fwriad, a drefnodd ers amser maith, a dinistriodd yn ddiarbed; gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos, a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.

18Gwaedda ar yr Arglwydd, O fur merch Seion; tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos; paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.

19Cod, a gwaedda liw nos, ar gychwyn pob gwyliadwriaeth; tywallt dy galon fel du373?r o flaen yr Arglwydd; estyn dy ddwylo tuag ato am fywyd dy blant, sy'n llewygu gan newyn ym mhen pob stryd.

20Edrych, ARGLWYDD, a gw�l. I bwy y gwnaethost hyn? A yw'r gwragedd i fwyta'u hepil, y plant y maent yn eu hanwesu? A leddir offeiriad a phroffwyd yng nghysegr yr Arglwydd?

21Gorwedd yr ifanc a'r hen yn y llwch ar y strydoedd; y mae fy merched a'm dynion ifainc wedi syrthio trwy'r cleddyf; lleddaist hwy yn nydd dy ddicter, a'u difa'n ddiarbed.

22Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad, fel ar ddydd gu373?yl; nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbed yn nydd dicter yr ARGLWYDD; lladdodd fy ngelyn bob un a anwesais ac a fegais.

>