Galarnad 3:1-66 BCN1988 - Bible AI

1Myfi yw'r gu373?r a welodd ofid dan wialen ei ddicter.

2Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerdded trwy dywyllwch lle nad oedd goleuni.

3Daliodd i droi ei law yn f'erbyn, a hynny ddydd ar �l dydd.

4Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni, a maluriodd f'esgyrn.

5Gwnaeth warchae o'm cwmpas, a'm hamgylchynu � chwerwder a blinder.

6Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch, fel rhai wedi hen farw.

7Caeodd arnaf fel na allwn ddianc, a gosododd rwymau trwm amdanaf.

8Pan elwais, a gweiddi am gymorth, fe wrthododd fy ngweddi.

9Caeodd fy ffyrdd � meini mawrion, a gwneud fy llwybrau'n gam.

10Y mae'n gwylio amdanaf fel arth, fel llew yn ei guddfa.

11Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio, ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd.

12Parat�dd ei fwa, a'm gosod yn nod i'w saeth.

13Anelodd saethau ei gawell a'u trywanu i'm perfeddion.

14Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd, yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd.

15Llanwodd fi � chwerwder, a'm meddwi �'r wermod.

16Torrodd fy nannedd � cherrig, a gwneud imi grymu yn y lludw.

17Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch; anghofiais beth yw daioni.

18Yna dywedais, "Diflannodd fy nerth, a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD."

19Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl.

20Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng.

21Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar.

22Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.

23Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.

24Dywedais, "Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho."

25Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio.

26Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

27Da yw bod un yn cymryd yr iau arno yng nghyfnod ei ieuenctid.

28Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun, a bod yn dawel pan roddir hi arno;

29boed iddo osod ei enau yn y llwch; hwyrach fod gobaith iddo.

30Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro, a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg.

31Oherwydd nid yw'r Arglwydd yn gwrthod am byth;

32er iddo gystuddio, bydd yn trugarhau yn �l ei dosturi mawr,

33gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid ac yn cystuddio pobl.

34Sathru dan draed holl garcharorion y ddaear,

35a thaflu o'r neilltu hawl rhywun gerbron y Goruchaf,

36a gwyrdroi achos � Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn?

37Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i'r Arglwydd ei drefnu?

38Onid o enau'r Goruchaf y daw drwg a da?

39Sut y gall unrhyw un byw rwgnach, ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb?

40Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd, a dychwelyd at yr ARGLWYDD,

41a dyrchafu'n calonnau a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd.

42Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela, ac nid wyt ti wedi maddau.

43Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid, yn lladd yn ddiarbed.

44Ymguddiaist mewn cwmwl rhag i'n gweddi ddod atat.

45Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthion ymysg y bobloedd.

46Y mae'n holl elynion yn gweiddi'n groch yn ein herbyn.

47Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl, hefyd mewn difrod a dinistr.

48Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddu373?r o achos dinistr merch fy mhobl;

49y mae'n diferu'n ddi-baid, heb gael gorffwys,

50hyd onid edrycha'r ARGLWYDD a gweld o'r nefoedd.

51Y mae fy llygad yn flinder imi o achos dinistr holl ferched fy ninas.

52Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achos yn fy erlid yn wastad fel aderyn.

53Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew, ac yn taflu cerrig arnaf.

54Llifodd y dyfroedd trosof, a dywedais, "Y mae ar ben arnaf."

55Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD, o waelod y pydew.

56Clywaist fy llef: "Paid � throi'n glustfyddar i'm cri am gymorth."

57Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat; dywedaist, "Paid ag ofni."

58Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos, ac yn gwaredu fy mywyd.

59Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd � mi, a dyfernaist o'm plaid.

60Gwelaist eu holl ddial, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn.

61Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg, a'u holl gynllwynio yn f'erbyn �

62geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyr yn f'erbyn bob dydd.

63Edrych arnynt � yn eistedd neu'n sefyll, fi yw testun eu gwawd.

64O ARGLWYDD, t�l iddynt yn �l gweithredoedd eu dwylo.

65Rho iddynt ofid calon, a bydded dy felltith arnynt.

66O ARGLWYDD, erlid hwy yn dy lid, a dinistria hwy oddi tan y nefoedd.

>