1Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni; edrych a gw�l ein gwarth.
2Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.
3Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau, a'n mamau fel gweddwon.
4Y mae'n rhaid inni dalu am y du373?r a yfwn, a phrynu'r coed a gawn.
5Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir; yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.
6Gwnaethom gytundeb �'r Aifft, ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.
7Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach; ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.
8Caethweision sy'n llywodraethu arnom, ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.
9Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd, oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.
10Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.
11Treisir gwragedd yn Seion, a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.
12Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo, ac ni pherchir yr henuriaid.
13Y mae'r dynion ifainc yn llafurio �'r maen melin, a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.
14Gadawodd yr henuriaid y porth, a'r gwu375?r ifainc eu cerddoriaeth.
15Diflannodd llawenydd o'n calonnau, a throdd ein dawnsio yn alar.
16Syrthiodd y goron oddi ar ein pen; gwae ni, oherwydd pechasom.
17Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol, ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:
18am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch, a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.
19Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth, ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.
20Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd, ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?
21ARGLWYDD, tyn ni'n �l atat, ac fe ddychwelwn; adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,
22os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr, ac yn ddig iawn wrthym.