1Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear.
2Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.
3A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni.
4Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch.
5Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a'r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
6Yna dywedodd Duw, "Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd yn gwahanu dyfroedd oddi wrth ddyfroedd."
7A gwnaeth Duw y ffurfafen, a gwahanodd y dyfroedd odani oddi wrth y dyfroedd uwchlaw iddi. A bu felly.
8Galwodd Duw y ffurfafen yn nefoedd. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd.
9Yna dywedodd Duw, "Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych." A bu felly.
10Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
11Dywedodd Duw, "Dyged y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had, a choed ir ar y ddaear yn dwyn ffrwyth � had ynddo, yn �l eu rhywogaeth." A bu felly.
12Dygodd y ddaear dyfiant, llysiau yn dwyn had yn �l eu rhywogaeth, a choed yn dwyn ffrwyth � had ynddo, yn �l eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
13A bu hwyr a bu bore, y trydydd dydd.
14Yna dywedodd Duw, "Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd.
15Bydded iddynt fod yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear." A bu felly.
16Gwnaeth Duw y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli'r dydd, a'r golau lleiaf y nos; a gwnaeth y s�r hefyd.
17A gosododd Duw hwy yn ffurfafen y nefoedd i oleuo ar y ddaear,
18i reoli'r dydd a'r nos ac i wahanu'r goleuni oddi wrth y tywyllwch. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
19A bu hwyr a bu bore, y pedwerydd dydd.
20Yna dywedodd Duw, "Heigied y dyfroedd o greaduriaid byw, ac uwchlaw'r ddaear eheded adar ar draws ffurfafen y nefoedd."
21A chreodd Duw y morfilod mawr, a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd yn �l eu rhywogaeth, a phob aderyn asgellog yn �l ei rywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
22Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y moroedd, a lluosoged yr adar ar y ddaear."
23A bu hwyr a bu bore, y pumed dydd.
24Yna dywedodd Duw, "Dyged y ddaear greaduriaid byw yn �l eu rhywogaeth: anifeiliaid, ymlusgiaid a bwystfilod gwyllt yn �l eu rhywogaeth." A bu felly.
25Gwnaeth Duw y bwystfilod gwyllt yn �l eu rhywogaeth, a'r anifeiliaid yn �l eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y tir yn �l eu rhywogaeth. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
26Dywedodd Duw, "Gwnawn ddyn ar ein delw, yn �l ein llun ni, i lywodraethu ar bysgod y m�r, ar adar yr awyr, ar yr anifeiliaid gwyllt, ar yr holl ddaear, ac ar bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear."
27Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.
28Bendithiodd Duw hwy a dweud, "Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y m�r, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy'n ymlusgo ar y ddaear."
29A dywedodd Duw, "Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden � had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chwi.
30Ac i bob bwystfil gwyllt, i holl adar yr awyr, ac i bopeth sy'n ymlusgo ar y ddaear, popeth ag anadl einioes ynddo, bydd pob llysieuyn glas yn fwyd." A bu felly.
31Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd.