Genesis 10:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw.

2Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.

3Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma.

4Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim;

5o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn �l ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd.

6Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.

7Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan.

8Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear.

9Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, "Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD."

10Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar.

11Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala,

12a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala.

13Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,

14Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt.

15Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth;

16hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

17Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

18Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid,

19ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa.

20Dyna feibion Cham, yn �l eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd �'u gwledydd a'u cenhedloedd.

21I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant.

22Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram.

23Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas.

24Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.

25I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd.

26Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera,

27Hadoram, Usal, Dicla,

28Obal, Abimael, Seba,

29Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan.

30Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain.

31Dyna feibion Sem, yn �l eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd �'u gwledydd a'u cenhedloedd.

32Dyma lwythau meibion Noa, yn �l eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw.

>