Genesis 2:1-25 BCN1988 - Bible AI

1Felly gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear a'u holl luoedd.

2Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.

3Am hynny bendithiodd Duw y seithfed dydd a'i sancteiddio, am mai ar hwnnw y gorffwysodd Duw oddi wrth ei holl waith yn creu.

4Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy. Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,

5nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir;

6ond yr oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir.

7Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.

8A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio.

9A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg.

10Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair.

11Enw'r afon gyntaf yw Pison; hon sy'n amgylchu holl wlad Hafila, lle y ceir aur;

12y mae aur y wlad honno'n dda, ac yno ceir bdeliwm a'r maen onyx.

13Enw'r ail yw Gihon; hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia.

14Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates.

15Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw.

16Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, "Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd,

17ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw."

18Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, "Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys."

19Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth � hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.

20Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.

21Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle � chnawd;

22ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth � hi at y dyn.

23A dywedodd y dyn, "Dyma hi! Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd. Gelwir hi yn wraig, am mai o u373?r y cymerwyd hi."

24Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.

25Yr oedd y dyn a'i wraig ill dau yn noeth, ac nid oedd arnynt gywilydd.