1Bu Sara fyw am gant dau ddeg a saith o flynyddoedd; dyna hyd ei hoes.
2Bu farw Sara yn Ciriath-arba, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan; ac aeth Abraham i alaru am Sara, ac wylodd amdani.
3Wedi hynny cododd Abraham o u373?ydd y marw, a dywedodd wrth yr Hethiaid,
4Dieithryn ac ymdeithydd wyf yn eich mysg; rhowch i mi hawl ar fedd yn eich plith, er mwyn imi gael claddu fy marw."
5Atebodd yr Hethiaid Abraham, a dweud wrtho,
6Clyw ni, f'arglwydd; tywysog nerthol wyt ti yn ein plith. Cladda dy farw yn y gorau o'n beddau; ni wrthyd neb ohonom ei fedd iti i gladdu dy farw."
7Yna cododd Abraham ac ymgrymu i'r Hethiaid, pobl y wlad,
8a dweud wrthynt, "Os ydych yn fodlon imi gladdu fy marw, gwrandewch arnaf, a deisyfwch trosof ar Effron fab Sohar
9iddo roi imi ogof Machpela, sy'n eiddo iddo ac yng nghwr ei faes. Rhodded hi i mi am y pris llawn, imi gael hawl ar fedd yn eich plith."
10Yr oedd Effron yn eistedd gyda'r Hethiaid, a dywedodd wrth Abraham yng nghlyw'r Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth ei ddinas,
11Na, f'arglwydd, gwrando arnaf; rhof y maes i ti yn ogystal �'r ogof sydd ynddo; yr wyf yn ei rhoi i ti yng ngu373?ydd fy mhobl; cladda dy farw."
12Yna ymgrymodd Abraham o flaen pobl y wlad,
13a dywedodd wrth Effron yn eu clyw, "Os felly, gwrando arnaf; yr wyf am roi i ti bris y maes; cymer hyn gennyf, er mwyn imi gael claddu fy marw yno."
14Atebodd Effron Abraham a dweud wrtho,
15Gwrando arnaf, f'arglwydd; darn o dir gwerth pedwar can sicl o arian, beth yw hynny rhyngom ni? Cladda dy farw."
16Cytunodd Abraham ag Effron, a phwysodd iddo yr arian a grybwyllodd yng nghlyw'r Hethiaid, pedwar can sicl o arian, yn �l pwysau'r marchnatwyr.
17Felly y sicrhawyd i Abraham, yng ngu373?ydd yr Hethiaid a phawb oedd yn dod i mewn trwy borth y ddinas, feddiant ar faes Effron yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd ef y maes a'r ogof ynddo a phob coeden o fewn holl derfynau'r maes.
18{cf2 (23:17)}
19Wedi hynny, claddodd Abraham ei wraig Sara yn yr ogof ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, hynny yw Hebron, yng ngwlad Canaan.
20Sicrhawyd gan yr Hethiaid y maes a'r ogof oedd ynddo yn gladdfa i Abraham.