Genesis 26:1-35 BCN1988 - Bible AI

1Bu newyn yn y wlad, heblaw'r newyn a fu gynt yn nyddiau Abraham, ac aeth Isaac i Gerar at Abimelech brenin y Philistiaid.

2Yr oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo, a dweud, "Paid � mynd i lawr i'r Aifft; aros yn y wlad a ddywedaf fi wrthyt.

3Ymdeithia yn y wlad hon, a byddaf gyda thi i'th fendithio; oherwydd rhoddaf yr holl wledydd hyn i ti ac i'th ddisgynyddion, a chadarnhaf y llw a dyngais wrth dy dad Abraham.

4Amlhaf dy ddisgynyddion fel s�r y nefoedd, a rhoi iddynt yr holl wledydd hyn. Bendithir holl genhedloedd y ddaear trwy dy ddisgynyddion.

5Bydd hyn am i Abraham wrando ar fy llais, a chadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau a'm cyfreithiau."

6Felly arhosodd Isaac yn Gerar.

7Pan ofynnodd gwu375?r y lle ynghylch ei wraig, dywedodd, "Fy chwaer yw hi", am fod arno ofn dweud, "Fy ngwraig yw hi", rhag i wu375?r y lle ei ladd o achos Rebeca; oherwydd yr oedd hi'n brydferth.

8Wedi iddo fod yno am ysbaid, edrychodd Abimelech brenin y Philistiaid trwy'r ffenestr a chanfod Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.

9Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, "Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, 'Fy chwaer yw hi'?" Dywedodd Isaac wrtho, "Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi."

10Dywedodd Abimelech, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni? Hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig, ac i ti ddwyn euogrwydd arnom."

11Felly rhybuddiodd Abimelech yr holl bobl a dweud, "Lleddir y sawl a gyffyrdda �'r gu373?r hwn neu �'i wraig."

12Heuodd Isaac yn y tir hwnnw, a medi'r flwyddyn honno ar ei ganfed, a bendithiodd yr ARGLWYDD ef.

13Llwyddodd y gu373?r, a chynyddodd nes dod yn gyfoethog iawn.

14Yr oedd yn berchen defaid ac ychen, a llawer o weision, fel bod y Philistiaid yn cenfigennu wrtho.

15Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi � phridd,

16a dywedodd Abimelech wrth Isaac, "Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni."

17Felly ymadawodd Isaac oddi yno, a gwersyllodd yn nyffryn Gerar ac aros yno.

18Ac ailgloddiodd Isaac y pydewau du373?r a gloddiwyd yn nyddiau ei dad Abraham, ac a gaewyd gan y Philistiaid ar �l marw Abraham; a galwodd hwy wrth yr un enwau �'i dad.

19Ond pan gloddiodd gweision Isaac yn y dyffryn, a chael yno ffynnon o ddu373?r yn tarddu,

20bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, "Ni biau'r du373?r." Felly enwodd y ffynnon Esec, am iddynt godi cynnen ag ef.

21Yna cloddiasant bydew arall, a bu cynnen ynglu375?n � hwnnw hefyd; felly enwodd ef Sitna.

22Symudodd oddi yno a chloddio pydew arall, ac ni bu cynnen ynglu375?n � hwnnw; felly enwodd ef Rehoboth, a dweud, "Rhoes yr ARGLWYDD le helaeth i ni, a byddwn ffrwythlon yn y wlad."

23Aeth Isaac oddi yno i Beerseba.

24Ac un noson ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo, a dweud, "Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi. Bendithiaf di ac amlhaf dy ddisgynyddion er mwyn fy ngwas Abraham."

25Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw'r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno.

26Yna daeth Abimelech ato o Gerar, gydag Ahussath ei gynghorwr a Phichol pennaeth ei fyddin.

27Gofynnodd Isaac iddynt, "Pam yr ydych wedi dod ataf, gan i chwi fy nghas�u a'm gyrru oddi wrthych?"

28Atebasant hwythau, "Gwelsom yn eglur fod yr ARGLWYDD gyda thi; am hynny fe ddywedwn, 'Bydded llw rhyngom', a gwnawn gyfamod � thi,

29na wnei di ddim drwg i ni, yn union fel na fu i ni gyffwrdd � thi, na gwneud dim ond daioni iti a'th anfon ymaith mewn heddwch. Yn awr, ti yw bendigedig yr ARGLWYDD."

30Yna, gwnaeth wledd iddynt, a bwytasant ac yfed.

31Yn y bore codasant yn gynnar a thyngu llw i'w gilydd; ac anfonodd Isaac hwy ymaith, ac aethant mewn heddwch.

32Daeth gweision Isaac y diwrnod hwnnw a mynegi iddo am y pydew yr oeddent wedi ei gloddio, a dweud wrtho, "Cawsom ddu373?r."

33Galwodd yntau ef Seba; am hynny Beerseba yw enw'r ddinas hyd heddiw.

34Pan oedd Esau'n ddeugain mlwydd oed, priododd Judith ferch Beeri yr Hethiad, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad;

35a buont yn achos gofid i Isaac a Rebeca.

>