1Yna galwodd Isaac ar Jacob, a bendithiodd ef. Gorchmynnodd iddo, "Paid � phriodi gwraig o blith merched Canaan.
2Cod, dos i Padan Aram, i du375? Bethuel tad dy fam; a chymer iti yno wraig o blith merched Laban brawd dy fam.
3Boed i Dduw Hollalluog dy fendithio, a'th wneud yn ffrwythlon a lluosog fel y byddi'n gynulliad o bobloedd.
4Rhodded ef fendith Abraham i ti ac i'th hil hefyd, fel y cei etifeddu'r wlad yr wyt yn ymdeithio ynddi, yr un a roddodd Duw i Abraham."
5Felly, anfonodd Isaac Jacob ymaith; ac aeth yntau i Padan Aram at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca mam Jacob ac Esau.
6Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, "Paid � phriodi gwraig o blith merched Canaan",
7a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.
8Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,
9aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.
10Ymadawodd Jacob � Beerseba a theithio tua Haran.
11A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.
12Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.
13A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, "Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;
14bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.
15Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof � thi'n �l i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais."
16Pan ddeffr�dd Jacob o'i gwsg, dywedodd, "Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i."
17A daeth arno ofn, ac meddai, "Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thu375? i Dduw, a dyma borth y nefoedd."
18Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.
19Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.
20Yna gwnaeth Jacob adduned, a dweud, "Os bydd Duw gyda mi, ac yn fy nghadw'n ddiogel ar fy nhaith, a rhoi imi fara i'w fwyta a dillad i'w gwisgo,
21a minnau'n dychwelyd mewn heddwch i du375? fy nhad, yna bydd yr ARGLWYDD yn Dduw i mi,
22a bydd y garreg hon a osodais yn golofn yn du375? i Dduw; ac o bob peth a roi i mi, mi rof ddegwm i ti."