Genesis 36:1-43 BCN1988 - Bible AI

1Dyma genedlaethau Esau, hynny yw Edom.

2Priododd Esau wragedd o blith merched Canaan, sef Ada merch Elon yr Hethiad, Oholibama merch Ana fab Sibeon yr Hefiad,

3a Basemath merch Ismael a chwaer Nebaioth.

4Ac i Esau esgorodd Ada ar Eliffas; esgorodd Basemath ar Reuel;

5ac esgorodd Oholibama ar Jeus, Jalam a Cora. Dyma feibion Esau a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.

6Cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion a'i ferched, a phob aelod o'i deulu, ei wartheg a'i holl anifeiliaid, a'r holl feddiant a gafodd yng ngwlad Canaan, ac aeth draw i wlad Seir oddi wrth ei frawd Jacob.

7Yr oedd eu cyfoeth mor fawr fel na allent gyd-fyw, ac ni allai'r wlad lle'r oeddent yn byw eu cynnal o achos eu hanifeiliaid.

8Felly arhosodd Esau, hynny yw Edom, ym mynydd-dir Seir.

9Dyma genedlaethau Esau, tad yr Edomiaid ym mynydd-dir Seir.

10Dyma enwau meibion Esau: Eliffas fab Ada gwraig Esau, Reuel fab Basemath gwraig Esau.

11A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.

12Yr oedd Timna yn wraig ordderch i Eliffas fab Esau, ac i Eliffas esgorodd ar Amalec. Dyna ddisgynyddion Ada gwraig Esau.

13Meibion Reuel oedd Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna ddisgynyddion Basemath gwraig Esau.

14Dyma feibion Oholibama, merch Ana fab Sibeon, gwraig Esau: i Esau esgorodd ar Jeus, Jalam a Cora.

15Dyma benaethiaid disgynyddion Esau: meibion Eliffas, mab hynaf Esau, y penaethiaid Teman, Omar, Seffo, Cenas,

16Cora, Gatam ac Amalec. Dyna benaethiaid Eliffas yng ngwlad Edom; meibion Ada oeddent.

17Yna meibion Reuel fab Esau: y penaethiaid Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna benaethiaid Reuel yng ngwlad Edom; meibion Basemath gwraig Esau oeddent.

18Yna meibion Oholibama gwraig Esau: y penaethiaid Jeus, Jalam a Cora. Dyna'r penaethiaid a anwyd i Oholibama merch Ana, gwraig Esau.

19Dyna ddisgynyddion Esau, hynny yw Edom, a dyna'u penaethiaid.

20Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,

21Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom.

22Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd ei chwaer.

23Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo ac Onam.

24Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddu373?r yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon.

25Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.

26Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran.

27Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan ac Acan.

28Dyma feibion Disan: Us ac Aran.

29Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,

30Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn �l eu tylwythau yng ngwlad Seir.

31Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom, cyn i'r Israeliaid gael brenin.

32Teyrnasodd Bela fab Beor yn Edom, a Dinhaba oedd enw ei ddinas.

33Pan fu farw Bela, teyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.

34Pan fu farw Jobab, teyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.

35Pan fu farw Husam, teyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le, ac ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab; Afith oedd enw ei ddinas.

36Pan fu farw Hadad, teyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.

37Pan fu farw Samla, teyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.

38Pan fu farw Saul, teyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.

39Pan fu farw Baal-hanan fab Achbor, teyrnasodd Hadar yn ei le; Pau oedd enw ei ddinas. Mehetabel merch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.

40Dyma enwau penaethiaid Esau, yn �l eu llwythau a'u hardaloedd, wrth eu henwau: Timna, Alfa, Jetheth,

41Oholibama, Ela, Pinon,

42Cenas, Teman, Mibsar,

43Magdiel ac Iram. Dyna benaethiaid Edom, hynny yw Esau tad yr Edomiaid, yn �l lle'r oeddent yn byw yn y wlad yr oeddent yn ei meddiannu.

>