1Wedi'r pethau hyn, troseddodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2Ffromodd Pharo wrth ei ddau swyddog, y pen-trulliad a'r pen-pobydd,
3a'u rhoi yn y ddalfa yn nhu375? pennaeth y gwarchodwyr, sef y carchar lle'r oedd Joseff yn gaeth.
4Trefnodd pennaeth y gwarchodwyr i Joseff ofalu amdanynt a gweini arnynt. Wedi iddynt fod yn y ddalfa am ysbaid,
5cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun.
6Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl,
7gofynnodd i swyddogion Pharo a oedd gydag ef yn y ddalfa yn nhu375? ei feistr, "Pam y mae golwg ddigalon arnoch heddiw?"
8Atebasant, "Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli." Yna dywedodd Joseff wrthynt, "Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi."
9Felly adroddodd y pen-trulliad ei freuddwyd i Joseff, a dweud wrtho, "Yn fy mreuddwyd yr oedd gwinwydden o'm blaen,
10ac ar y winwydden dair cangen; yna blagurodd, blodeuodd, ac aeddfedodd ei grawnsypiau yn rawnwin.
11Yn fy llaw yr oedd cwpan Pharo; cymerais y grawnwin, eu gwasgu i gwpan Pharo, a rhoi'r cwpan yn ei law."
12Dywedodd Joseff wrtho, "Dyma'r dehongliad: y tair cangen, tri diwrnod ydynt;
13ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben ac yn dy adfer i'th swydd, a byddi dithau'n rhoi cwpan Pharo yn ei law, yn �l yr arfer gynt pan oeddit yn drulliad iddo.
14Os bydd iti gofio amdanaf pan fydd yn dda arnat, fe wnei gymwynas � mi trwy grybwyll amdanaf wrth Pharo, a'm cael allan o'r tu375? hwn.
15Oherwydd cefais fy nghipio o wlad yr Hebreaid; ac nid wyf wedi gwneud dim yma chwaith i haeddu fy ngosod mewn cell."
16Pan welodd y pen-pobydd fod y dehongliad yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff, "Cefais innau hefyd freuddwyd: yr oedd tri chawell o fara gwyn ar fy mhen.
17Yn y cawell uchaf yr oedd pob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac adar yn ei fwyta o'r cawell ar fy mhen."
18Atebodd Joseff, "Dyma'r dehongliad: y tri chawell, tri diwrnod ydynt;
19ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben � oddi arnat! � ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd."
20Ar y trydydd dydd yr oedd pen-blwydd Pharo, a gwnaeth wledd i'w holl weision, a dod �'r pen-trulliad a'r pen-pobydd i fyny yng ngu373?ydd ei weision.
21Adferodd y pen-trulliad i'w swydd, a rhoddodd yntau'r cwpan yn llaw Pharo;
22ond crogodd y pen-pobydd, fel yr oedd Joseff wedi dehongli iddynt.
23Eto ni chofiodd y pen-trulliad am Joseff, ond anghofio'n llwyr amdano.