1Pan ddeallodd Jacob fod u375?d yn yr Aifft, dywedodd wrth ei feibion, "Pam yr ydych yn edrych ar eich gilydd?
2Clywais fod u375?d i'w gael yn yr Aifft; ewch i lawr yno a phrynwch i ni, er mwyn inni gael byw ac nid marw."
3Felly aeth deg o frodyr Joseff i brynu u375?d yn yr Aifft;
4ond nid anfonodd Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr, rhag ofn i niwed ddigwydd iddo.
5Daeth meibion Israel ymhlith eraill i brynu u375?d, am fod newyn trwy wlad Canaan.
6Joseff oedd yr arolygwr dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu u375?d i bawb. A daeth brodyr Joseff ac ymgrymu iddo i'r llawr.
7Pan welodd Joseff ei frodyr, adnabu hwy, ond ymddygodd fel dieithryn a siarad yn hallt wrthynt. Gofynnodd iddynt, "O ble y daethoch?" Ac atebasant, "O wlad Canaan i brynu bwyd."
8Yr oedd Joseff wedi adnabod ei frodyr, ond nid oeddent hwy'n ei adnabod ef.
9Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, "Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad."
10Dywedasant hwythau wrtho, "Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd.
11Meibion un gu373?r ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision."
12Meddai yntau wrthynt, "Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad."
13Atebasant, "Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gu373?r yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw."
14Ond dywedodd Joseff wrthynt, "Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych.
15Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired � bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.
16Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired � bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych."
17A rhoddodd hwy i gyd yng ngharchar am dridiau.
18Ar y trydydd diwrnod dywedodd Joseff wrthynt, "Fel hyn y gwnewch er mwyn ichwi gael byw, oherwydd yr wyf yn ofni Duw:
19os ydych yn wu375?r gonest, cadwer un brawd yng ngharchar, a chewch chwithau gludo u375?d at angen eich teuluoedd,
20a dod �'ch brawd ieuengaf ataf. Felly y ceir gweld eich bod yn dweud y gwir, ac ni byddwch farw." Dyna a wnaed.
21Yna dywedasant wrth ei gilydd, "Yn wir, yr ydym yn haeddu cosb o achos ein brawd, am inni weld ei ofid ef pan oedd yn ymbil arnom, a gwrthod gwrando; dyna pam y daeth y gofid hwn arnom."
22Dywedodd Reuben, "Oni ddywedais wrthych, 'Peidiwch � gwneud cam �'r bachgen'? Ond ni wrandawsoch, ac yn awr rhaid ateb am ei waed."
23Ni wyddent fod Joseff yn eu deall, am fod cyfieithydd rhyngddynt.
24Troes yntau oddi wrthynt i wylo. Yna daeth yn �l a siarad � hwy, a chymerodd Simeon o'u mysg a'i rwymo o flaen eu llygaid.
25Gorchmynnodd Joseff lenwi eu sachau ag u375?d, a rhoi arian pob un yn �l yn ei sach, a rhoi bwyd iddynt at y daith. Felly y gwnaed iddynt.
26Yna codasant yr u375?d ar eu hasynnod a mynd oddi yno.
27Pan oedd un yn agor ei sach yn y llety, i roi bwyd i'w asyn, gwelodd ei arian yng ngenau'r sach,
28a dywedodd wrth ei frodyr, "Rhoddwyd fy arian yn �l; y maent yma yn fy sach." Yna daeth ofn arnynt a throesant yn grynedig at ei gilydd, a dweud, "Beth yw hyn y mae Duw wedi ei wneud i ni?"
29Pan ddaethant at eu tad Jacob yng ngwlad Canaan, adroddasant eu holl helynt wrtho, a dweud,
30Siaradodd y gu373?r oedd yn arglwydd y wlad yn hallt wrthym, a chymryd mai ysbiwyr oeddem.
31Dywedasom ninnau wrtho, 'Gwu375?r gonest ydym ni, ac nid ysbiwyr.
32Yr oeddem yn ddeuddeg brawd, meibion ein tad; bu farw un, ac y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad yng ngwlad Canaan.'
33Yna dywedodd arglwydd y wlad wrthym, 'Fel hyn y caf wybod eich bod yn onest: gadewch un o'ch brodyr gyda mi, a chymerwch u375?d at angen eich teuluoedd, ac ewch ymaith.
34Dewch �'ch brawd ieuengaf ataf, imi gael gwybod nad ysbiwyr ydych ond dynion gonest; yna rhof eich brawd ichwi, a chewch farchnata yn y wlad.'"
35Pan aethant i wac�u eu sachau yr oedd cod arian pob un yn ei sach. A phan welsant hwy a'u tad y codau arian, daeth ofn arnynt,
36a dywedodd eu tad Jacob wrthynt, "Yr ydych yn fy ngwneud yn ddi-blant; bu farw Joseff, nid yw Simeon yma, ac yr ydych am ddwyn Benjamin ymaith. Y mae pob peth yn fy erbyn."
37Dywedodd Reuben wrth ei dad, "Cei ladd fy nau fab i os na ddof ag ef yn �l atat; rho ef yn fy ngofal, ac mi ddof ag ef yn �l atat."
38Meddai yntau, "Ni chaiff fy mab fynd gyda chwi, oherwydd bu farw ei frawd, ac nid oes neb ond ef ar �l. Os digwydd niwed iddo ar eich taith, fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch."