Genesis 5:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Dyma lyfr cenedlaethau Adda. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw.

2Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn.

3Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth.

4Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

5Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.

6Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.

7Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

8Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.

9Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.

10Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

11Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.

12Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel.

13Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

14Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw.

15Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered.

16Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

17Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.

18Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch.

19Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

20Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.

21Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela.

22Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

23Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd.

24Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef.

25Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech.

26Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

27Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.

28Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab;

29a galwodd ef yn Noa, a dweud, "Fe ddaw hwn � chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD."

30Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.

31Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw.

32Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.