Genesis 7:1-24 BCN1988 - Bible AI

1Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, "Dos i mewn i'r arch, ti a'th holl deulu, oherwydd gwelais dy fod di yn gyfiawn ger fy mron yn y genhedlaeth hon.

2Cymer gyda thi saith b�r o'r holl anifeiliaid gl�n, y gwryw a'i gymar; a ph�r o'r anifeiliaid nad ydynt l�n, y gwryw a'i gymar;

3a phob yn saith b�r hefyd o adar yr awyr, y gwryw a'r fenyw, i gadw eu hil yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.

4Oherwydd ymhen saith diwrnod paraf iddi lawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos, a byddaf yn dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw a wneuthum."

5Gwnaeth Noa bopeth fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.

6Chwe chant oed oedd Noa pan ddaeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.

7Aeth Noa i mewn i'r arch, a'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion gydag ef, rhag dyfroedd y dilyw.

8Cymerodd o'r anifeiliaid gl�n a'r anifeiliaid nad oeddent l�n, o'r adar a phopeth oedd yn ymlusgo ar y tir,

9a daethant i mewn ato i'r arch bob yn ddau, yn wryw a benyw, fel y gorchmynnodd Duw i Noa.

10Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.

11Yn y chwe chanfed flwyddyn o oes Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y diwrnod hwnnw rhwygwyd holl ffynhonnau'r dyfnder mawr ac agorwyd ffenestri'r nefoedd,

12fel y bu'n glawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos.

13Y diwrnod hwnnw aeth Noa a'i feibion Sem, Cham a Jaffeth, gwraig Noa a thair gwraig ei feibion hefyd gyda hwy i mewn i'r arch,

14hwy a phob bwystfil yn �l ei rywogaeth, a phob anifail yn �l ei rywogaeth, a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear yn �l ei rywogaeth, a'r holl adar yn �l eu rhywogaeth, pob aderyn asgellog.

15Daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob creadur ag anadl einioes ynddo.

16Yr oeddent yn dod yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, ac aethant i mewn fel y gorchmynnodd Duw iddo; a chaeodd yr ARGLWYDD arno.

17Am ddeugain diwrnod y bu'r dilyw yn dod ar y ddaear; amlhaodd y dyfroedd, gan gludo'r arch a'i chodi oddi ar y ddaear.

18Cryfhaodd y dyfroedd ac amlhau'n ddirfawr ar y ddaear, a moriodd yr arch ar wyneb y dyfroedd.

19Cryfhaodd y dyfroedd gymaint ar y ddaear nes gorchuddio'r holl fynyddoedd uchel ym mhob man dan y nefoedd;

20cododd y dyfroedd dros y mynyddoedd a'u gorchuddio dan ddyfnder o bymtheg cufydd.

21Trengodd pob cnawd oedd yn symud ar y ddaear, yn adar, anifeiliaid, bwystfilod, popeth oedd yn heigio ar y ddaear, a phobl hefyd;

22bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl einioes yn ei ffroenau.

23Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch.

24Parhaodd y dyfroedd ar y ddaear am gant a hanner o ddyddiau.