1Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, "Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear.
2Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y m�r; gosodwyd hwy dan eich awdurdod.
3Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth.
4Ond peidiwch � bwyta cig �'i einioes, sef ei waed, ynddo.
5Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.
6A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau; oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.
7Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch, epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi."
8Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud,
9Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod � chwi ac �'ch had ar eich �l,
10ac � phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch.
11Sefydlaf fy nghyfamod � chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear."
12A dywedodd Duw, "Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud � chwi ac � phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif:
13gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear.
14Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl,
15a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd.
16Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear."
17Dywedodd Duw wrth Noa, "Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear."
18Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan.
19Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear.
20Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan,
21ac yna yfodd o'r gwin nes meddwi, a gorwedd yn noeth yn ei babell.
22Gwelodd Cham, tad Canaan, ei dad yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd y tu allan;
23ond cymerodd Sem a Jaffeth fantell a'i gosod ar eu hysgwyddau, a cherdded yn wysg eu cefnau a gorchuddio noethni eu tad, gan droi eu hwynebau i ffwrdd rhag gweld noethni eu tad.
24Pan ddeffr�dd Noa o'i win, a gwybod beth yr oedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo,
25dywedodd, "Melltigedig fyddo Canaan; gwas i weision ei frodyr fydd."
26Dywedodd hefyd, "Bendigedig gan yr ARGLWYDD fy Nuw fyddo Sem; bydded Canaan yn was iddo.
27Helaethed Duw Jaffeth, iddo breswylio ym mhebyll Sem; bydded Canaan yn was iddo."
28Bu Noa fyw wedi'r dilyw am dri chant a hanner o flynyddoedd.
29Felly yr oedd oes gyfan Noa yn naw cant a hanner o flynyddoedd; yna bu farw.