Habacuc 3:1-19 BCN1988 - Bible AI

1Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth.

2O ARGLWYDD, clywais y s�n amdanat, a gwelais dy waith, O ARGLWYDD. Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd, datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd.

3Y mae Duw yn dyfod o Teman, a'r Sanctaidd o Fynydd Paran. Sela. Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd, a'i fawl yn llenwi'r ddaear.

4Y mae ei lewyrch fel y wawr, a phelydrau'n fflachio o'i law; ac yno y mae cuddfan ei nerth.

5� haint allan o'i flaen, a daw pla allan ar ei �l.

6Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd; pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu; rhwygir y mynyddoedd hen a siglir y bryniau oesol; llwybrau oesol sydd ganddo.

7Gwelais bebyll Cusan mewn helbul a llenni tir Midian yn crynu.

8A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD? A yw dy lid yn erbyn yr afonydd, a'th ddicter at y m�r? Pan wyt yn marchogaeth dy feirch a'th gerbydau i fuddugoliaeth,

9y mae dy fwa wedi ei ddarparu a'r saethau'n barod i'r llinyn. Sela. Yr wyt yn hollti'r ddaear ag afonydd;

10pan w�l y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir. Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen; tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.

11Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle, rhag fflachiau dy saethau cyflym, rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.

12Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear, ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.

13Ei allan i waredu dy bobl, i waredu dy eneiniog; drylli du375?'r drygionus i'r llawr, a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig. Sela.

14Tryweni �'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru, fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.

15Pan sethri'r m�r �'th feirch, y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.

16Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd, cryna fy ngwefusau gan y su373?n; daw pydredd i'm hesgyrn, a gollwng fy nhraed danaf; disgwyliaf am i'r dydd blin wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.

17Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i'r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd; er i'r praidd ddarfod o'r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai;

18eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.

19Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth; gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig, a ph�r imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.