1Gwinwydden doreithiog oedd Israel, a'i ffrwyth yr un fath � hi. Fel yr amlhaodd ei ffrwyth, amlhaodd yntau allorau; fel y daeth ei dir yn well, gwnaeth yntau ei golofnau yn well.
2Aeth eu calon yn ffals, ac yn awr y maent yn euog. Dryllia ef eu hallorau, a difetha'u colofnau.
3Yn awr y maent yn dweud, "Nid oes inni frenin, am nad ydym yn ofni'r ARGLWYDD, a pha beth a wn�i brenin i ni?"
4Llefaru geiriau y maent, a gwneud cyfamod � llwon ffals. Y mae barn yn codi fel chwyn gwenwynllyd yn rhychau'r maes.
5Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo Beth-afen. Y mae ei bobl yn galaru amdano, a'i eilun-offeiriaid yn wylofain amdano, am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho.
6Fe'i dygir ef i Asyria, yn anrheg i frenin mawr. Gwneir Effraim yn warth a chywilyddia Israel oherwydd ei eilun.
7Y mae brenin Samaria yn gyffelyb i frigyn ar wyneb dyfroedd.
8Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel; tyf drain a mieri ar eu hallorau; a dywedant wrth y mynyddoedd, "Cuddiwch ni", ac wrth y bryniau, "Syrthiwch arnom".
9Er dyddiau Gibea pechaist, O Israel; safasant yno mewn gwrthryfel. Onni ddaw rhyfel arnynt yn Gibea?
10Dof i'w cosbi, a chasglu pobloedd yn eu herbyn, pan gaethiwir hwy am eu drygioni deublyg.
11Heffer wedi ei thorri i mewn yw Effraim; y mae'n hoff o ddyrnu; gosodaf iau ar ei gwar deg, a rhof Effraim mewn harnais; bydd Jwda yn aredig, a Jacob yn llyfnu iddo.
12Heuwch gyfiawnder, a byddwch yn medi ffyddlondeb; triniwch i chwi fraenar; y mae'n bryd ceisio'r ARGLWYDD, iddo ddod a glawio cyfiawnder arnoch.
13Buoch yn aredig drygioni, yn medi anghyfiawnder, ac yn bwyta ffrwyth celwydd. "Am iti ymddiried yn dy ffordd, ac yn nifer dy ryfelwyr,
14fe gwyd terfysg ymysg dy bobl, a dinistrir dy holl amddiffynfeydd, fel y dinistriwyd Beth-arbel gan Salman yn nydd rhyfel, a dryllio'r fam gyda'i phlant.
15Felly y gwneir i chwi, Bethel, oherwydd eich drygioni mawr; gyda'r wawr torrir brenin Israel i lawr."