1Y mae Effraim yn bugeilio gwynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd; amlh�nt dwyll a thrais; gwn�nt gytundeb ag Asyria, a dygant olew i'r Aifft.
2Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda; fe gosba Jacob yn �l ei ffyrdd, a thalu iddo yn �l ei weithredoedd.
3Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd, ac wedi iddo dyfu ymdrechodd � Duw.
4Ymdrechodd �'r angel a gorchfygu; wylodd a cheisiodd ei ffafr. Ym Methel y cafodd ef, a siarad yno ag ef �
5ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yr ARGLWYDD yw ei enw.
6A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel, cadw deyrngarwch a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrus yn caru gorthrymu.
8Dywedodd Effraim, "Yn wir, 'rwy'n gyfoethog, ac enillais olud; yn fy holl enillion ni cheir na drygioni na phechod."
9Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th ddygodd o wlad yr Aifft; gwnaf iti eto drigo mewn pebyll, fel yn nyddiau'r u373?yl sefydlog.
10Lleferais wrth y proffwydi; ac amlheais weledigaethau a dangos gwers trwy'r proffwydi.
11Am fod eilunod yn Gilead, pethau cwbl ddiddim; am fod aberthu teirw yn Gilgal, bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrig ar rychau'r meysydd."
12Ffodd Jacob i dir Aram; gwasanaethodd Israel am wraig; am wraig y cadwodd ddefaid.
13Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef.
14Cythruddodd Effraim ef yn chwerw, a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd, a throi ei waradwydd yn �l arno.