1Pan lefarai Effraim byddai dychryn; yr oedd yn ddyrchafedig yn Israel; ond pan bechodd gyda Baal, bu farw.
2Ac yn awr y maent yn pechu ychwaneg; gwn�nt iddynt eu hunain ddelw dawdd, eilunod cywrain o arian, y cyfan yn waith crefftwyr. "Aberthwch i'r rhai hyn," meddant. Pobl yn cusanu lloi!
3Felly byddant fel tarth y bore, ac fel gwlith yn codi'n gyflym, fel us yn chwyrl�o o'r llawr dyrnu, ac fel mwg trwy hollt.
4Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th ddygodd o wlad yr Aifft; nid adwaenit Dduw heblaw myfi, ac nid oedd achubydd ond myfi.
5Gofelais amdanat yn yr anialwch, yn nhir sychder.
6Dan fy ngofal cawsant ddigon; fe'u llanwyd, a dyrchafodd eu calon; felly yr anghofiwyd fi.
7Minnau, byddaf fel llew iddynt; llechaf fel llewpard ar ymyl y llwybr.
8Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon, rhwygaf gnawd eu mynwes, ac yno traflyncaf hwy fel llew, fel y llarpia anifail gwyllt hwy.
9Pan ddinistriaf di, O Israel, pwy fydd dy gynorthwywr?
10Ble yn awr mae dy frenin, i'th achub yn dy holl ddinasoedd, a'th farnwyr, y dywedaist amdanynt, 'Dyro inni frenin a thywysogion'?
11Rhoddais iti frenin yn fy nig, ac fe'i dygais ymaith yn fy nghynddaredd.
12Rhwymwyd drygioni Effraim, a storiwyd ei bechod.
13Pan ddaw poenau esgor, am mai plentyn anghall ydyw, ni esyd ei hun yn yr amser ym man yr esgor.
14A waredaf hwy o Sheol? A achubaf hwy rhag angau? O angau, ble mae dy bl�u? O afael Sheol, ble mae dy ddinistr? Cuddiwyd trugaredd oddi wrth fy llygaid.
15Yn wir yr oedd yn dwyn ffrwyth ymysg brodyr, ond daw dwyreinwynt, gwynt yr ARGLWYDD, yn codi o'r anialwch; � ei ffynnon yn hesb, a sychir ei bydew; dinoetha ei drysordy o'i holl ddarnau gwerthfawr.
16Bydd Samaria yn euog, am iddi wrthryfela yn erbyn ei Duw; syrthiant wrth y cleddyf, dryllir eu rhai bychain yn chwilfriw, a rhwygir eu rhai beichiog yn agored."