Hosea 14:1-9 BCN1988 - Bible AI

1Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw, canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni.

2Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD; dywedwch wrtho, "Maddau'r holl ddrygioni, derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau.

3Ni all Asyria ein hachub, ac ni farchogwn ar geffylau; ac wrth waith ein dwylo ni ddywedwn eto, 'Ein Duw'. Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd."

4Iach�f eu hanffyddlondeb; fe'u caraf o'm bodd, oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.

5Byddaf fel gwlith i Israel; blodeua fel lili a lleda'i wraidd fel pren poplys.

6Lleda'i flagur, a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Lebanon.

7Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod; cynhyrchant u375?d, ffrwythant fel y winwydden, bydd eu harogl fel gwin Lebanon.

8Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod? Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir. Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog; oddi wrthyf y daw dy ffrwyth."

9Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn; pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded. Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir; rhodia'r cyfiawn ynddynt, ond meglir y drygionus ynddynt.

British and Foreign Bible Society, 1988
div>