1Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, du375? Israel; daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn, am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;
2gwnaethant bwll Sittim yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.
3Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf; ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.
4Ni chaniat� eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw, am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD."
5Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn; syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd, syrth Jwda hefyd gyda hwy.
6�nt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD, ond heb ei gael � ciliodd oddi wrthynt.
7Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon. Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.
8Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama; rhowch floedd yn Beth-afen: 'A'r dy �l di, Benjamin!'
9Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi; mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.
10Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn; bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.
11Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn, oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd.
12Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim, ac fel cancr i du375? Jwda.
13Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau, aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr; ond ni all ef eich gwella na'ch iach�u o'ch doluriau.
14Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i du375? Jwda; myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.
15Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai, a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd."