Hosea 7:1-16 BCN1988 - Bible AI

1Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iach�u Israel, datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria, oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals; y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.

2Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni; y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas, y maent yn awr ger fy mron.

3Y maent yn llawenychu'r brenin �'u drygioni, a'r tywysogion �'u celwyddau.

4Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd, nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.

5Ar ddydd gu373?yl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin; estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.

6Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell; ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi; yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau t�n.

7Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr; syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.

8Y mae Effraim wedi ymgymysgu �'r cenhedloedd; y mae Effraim fel teisen heb ei throi.

9Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod; lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.

10Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn; eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw, ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.

11Y mae Effraim fel colomen, yn ff�l a diddeall; galwant ar yr Aifft, �nt i Asyria.

12Fel yr �nt, lledaf fy rhwyd drostynt, a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr; fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.

13Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf! Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn! Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.

14Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau; am u375?d a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn.

15Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau, eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn.

16Tr�nt yn �l heb lwyddo; y maent fel bwa twyllodrus; syrth eu penaethiaid �'r cleddyf oherwydd haerllugrwydd eu tafodau. Dyma'u dirmyg yng ngwlad yr Aifft.

British and Foreign Bible Society, 1988
div>