Hosea 8:1-14 BCN1988 - Bible AI

1At dy wefus �'r utgorn! Y mae un tebyg i eryr yn erbyn tu375?'r ARGLWYDD, am iddynt dorri fy nghyfamod a gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.

2Llefant arnaf, 'O Dduw, yr ydym ni, Israel, yn dy adnabod.'

3Ffieiddiodd Israel ddaioni; bydd gelyn yn ei ymlid yntau.

4Gwnaethant frenhinoedd, ond nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, nad oeddwn yn eu hadnabod. �'u harian a'u haur gwnaethant iddynt eu hunain ddelwau, a hynny er distryw.

5Ffieiddiais dy lo, Samaria; cyneuodd fy llid yn ei erbyn.

6Pa hyd y methant ymlanhau yn Israel? Crefftwr a'i gwnaeth; nid yw'n dduw. Dryllir llo Samaria yn chwilfriw.

7Canys y maent yn hau gwynt, ac yn medi corwynt. Y mae'r corsennau u375?d heb rawn, ni r�nt flawd; pe rhoent, estroniaid a'i llyncai.

8Llyncwyd Israel; y mae eisoes ymysg y cenhedloedd fel llestr diwerth.

9Aethant i fyny at Asyria, fel asyn gwyllt ar ddisberod. Bargeiniodd Effraim am gariadon;

10er iddynt fargeinio ymysg y cenhedloedd, fe'u casglaf yn awr, wedi iddynt am ychydig wingo dan y baich, yn frenin a thywysogion.

11Amlhaodd Effraim allorau; ond aethant iddo yn allorau i bechu.

12Er i mi ysgrifennu llawer o ddeddfau, fe'u hystyrir fel peth dieithr.

13Carant aberthau; aberthant gig a'i fwyta; ond nid yw'r ARGLWYDD yn fodlon arnynt. Yn awr fe gofia eu drygioni, a chosbi eu pechodau; dychwelant i'r Aifft.

14Canys anghofiodd Israel ei wneuthurwr, ac adeiladodd balasau; lluosogodd Jwda ddinasoedd caerog; ond anfonaf d�n ar ei ddinasoedd ac fe ysa ei amddiffynfeydd."

British and Foreign Bible Society, 1988
div>