Jeremeia 10:1-25 BCN1988 - Bible AI

1Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, du375? Israel.

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Peidiwch � dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.

3Y mae arferion y bobloedd fel eilun � pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer � bwyell;

4ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau � morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.

5Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch �'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith."

6Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt, mawr yw dy enw mewn nerth.

7Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd? Hyn sy'n gweddu i ti. Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.

8Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd, wedi eu dysgu gan eilunod o bren!

9Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y saer a dwylo'r eurych; a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor � gwaith crefftwyr ydyw i gyd.

10Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw; ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol; y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid, ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.

11Fel hyn y dywedwch wrthynt: "Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe g�nt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd."

12Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.

13Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.

14Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.

15Oferedd u375?nt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir.

16Nid yw Duw Jacob fel y rhain, oherwydd ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

17Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad, ti, yr hon sy'n trigo dan warchae.

18Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn; dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny."

19Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn, ond dywedais, "Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef."

20Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd; aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy; nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.

21Aeth y bugeiliaid yn ynfyd; nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD; am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar.

22Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod! Cynnwrf mawr o dir y gogledd, i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch ac yn drigfa bleiddiaid.

23Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd; ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre.

24Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn, nid yn �l dy lid, rhag iti fy niddymu.

25Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw. Canys y maent wedi bwyta Jacob, ei fwyta a'i ddifetha, ac wedi difodi ei drigfan.

e>