Jeremeia 14:1-22 BCN1988 - Bible AI

1Dyma air yr ARGLWYDD at Jeremeia ynghylch y sychder:

2Y mae Jwda'n galaru, a'i phyrth yn llesg; y maent yn cwynfan ar lawr, a chri Jerwsalem yn esgyn fry.

3Y mae'r pendefigion yn anfon y gweision i gyrchu du373?r; d�nt at y ffosydd a'u cael yn sych, dychwelant a'u llestri'n wag; mewn cywilydd a dryswch fe guddiant eu hwynebau.

4Oherwydd craciodd y pridd am na ddaeth glaw i'r wlad; mewn cywilydd cuddiodd yr amaethwyr eu hwynebau.

5Y mae'r ewig yn bwrw llwdn yn y maes, ac yn ei adael am nad oes porfa;

6y mae'r asynnod gwyllt yn sefyll ar y moelydd uchel, ac yn yfed gwynt fel bleiddiaid; pylodd eu llygaid am nad oes gwellt."

7Yn ddiau, er i'n drygioni dystio yn ein herbyn, O ARGLWYDD, gweithreda er mwyn dy enw. Y mae ein gwrthgilio'n aml, pechasom yn dy erbyn.

8Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd, pam y byddi fel dieithryn yn y tir, fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?

9Pam y byddi fel un mewn syndod, fel un cryf yn methu achub? Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD; dy enw di a roddwyd arnom; paid �'n gadael."

10Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn: "Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed; am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt, fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau."

11Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Paid � gwedd�o dros les y bobl hyn.

12Pan ymprydiant, ni wrandawaf ar eu cri; pan aberthant boethoffrwm a bwydoffrwm, ni fynnaf hwy; ond difethaf hwy �'r cleddyf a newyn a haint."

13Dywedais innau, "O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, 'Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.'"

14A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Proffwydo celwyddau yn fy enw i y mae'r proffwydi; nid anfonais hwy, na gorchymyn iddynt, na llefaru wrthynt. Proffwydant i chwi weledigaethau gau, a dewiniaeth ff�l, a thwyll eu dychymyg eu hunain.

15Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sy'n proffwydo yn fy enw er nad anfonais hwy, sy'n dweud na bydd cleddyf na newyn yn y wlad hon: 'Trwy'r cleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.

16Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.'

17A dywedi wrthynt y gair hwn: 'Difered fy llygaid ddagrau, nos a dydd heb beidio. Daeth briw enbyd i'r wyryf, merch fy mhobl; ergyd drom iawn.

18Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd �'r cleddyf. Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn. Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad, a heb ddeall.'"

19A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion? Pam y trewaist ni heb fod inni iach�d? Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni; am amser iach�d, ond dychryn a ddaeth.

20Cydnabyddwn, ARGLWYDD, ein drygioni, a chamwedd ein hynafiaid; yn wir, yr ydym wedi pechu yn dy erbyn.

21Ond oherwydd dy enw, paid �'n ffieiddio ni, na dirmygu dy orsedd ogoneddus; cofia dy gyfamod � ni, paid �'i dorri.

22A oes neb ymhlith gau dduwiau'r cenhedloedd a rydd lawogydd? A rydd y nefoedd ei hun gawodydd? Na, ond ti, yr ARGLWYDD ein Duw, ynot ti yr hyderwn, ti yn unig a wnei'r pethau hyn oll.

e>