1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2Dos, a chyhoedda yng nghlyw Jerwsalem, a dywed: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Cofiaf di am dy deyrngarwch yn dy ieuenctid, ac am dy serch yn ddyweddi, ac am iti fy nghanlyn yn y diffeithwch, mewn tir heb ei hau.
3Yr oedd Israel yn gysegredig i'r ARGLWYDD, ac yn flaenffrwyth ei gnwd. Euog oedd pwy bynnag a'i bwytaodd; daeth dinistr arno,'" medd yr ARGLWYDD.
4Clywch air yr ARGLWYDD, O du375? Jacob, a holl deuluoedd tu375? Israel.
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf, i rodio ar �l oferedd, a mynd yn ofer?
6Ni ddywedasant, 'Ple mae'r ARGLWYDD a'n dygodd i fyny o'r Aifft, a'n harwain yn y diffeithwch, mewn tir anial, llawn o dyllau, tir sychder a thywyllwch dudew, tir nas troediwyd erioed, ac na thrigodd neb ynddo?'
7Dygais chwi i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni; ond daethoch i mewn a halogi fy nhir, a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra.
8Ni ddywedodd yr offeiriaid, 'Ple mae'r ARGLWYDD?' Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod, a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn; proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau diles�d.
9Am hyn, fe'ch cyhuddaf drachefn," medd yr ARGLWYDD, "gan gyhuddo hefyd blant eich plant.
10Tramwywch drwy ynysoedd Chittim ac edrychwch; anfonwch i Cedar, ystyriwch a gwelwch a fu'r fath beth.
11A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau, a hwythau heb fod yn dduwiau? Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau di-les�d.
12O nefoedd, rhyfeddwch at hyn; arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith," medd yr ARGLWYDD.
13Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg: fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, a chloddio iddynt eu hunain bydewau, pydewau toredig, na allant ddal du373?r.
14Ai caethwas yw Israel? Neu a anwyd ef yn gaeth? Pam, ynteu, yr aeth yn ysbail?
15Rhuodd y llewod a chodi eu llais yn ei erbyn. Gwnaethant ei dir yn ddiffaith, a'i ddinasoedd yn anghyfannedd heb drigiannydd.
16Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.
17Oni ddygaist hyn arnat dy hun, trwy adael yr ARGLWYDD dy Dduw pan oedd yn d'arwain yn y ffordd?
18Yn awr, beth a wnei di yn mynd i'r Aifft, i yfed dyfroedd y Neil, neu'n mynd i Asyria, i yfed dyfroedd yr Ewffrates?
19Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun, a'th geryddu gan dy wrthgiliad. Ystyria a gw�l mai drwg a chwerw yw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw, a pheidio �'m hofni," medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.
20Erstalwm yr wyt wedi torri dy iau a dryllio dy rwymau, a dweud, 'Ni wasanaethaf'. Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas, plygaist i buteinio.
21Plennais di yn winwydden b�r, o had gl�n pur; sut ynteu y'th drowyd yn blanhigyn afrywiog i mi, yn winwydden estron?
22Pe bait yn ymolchi � neitr, a chymryd llawer o sebon, byddai �l dy gamwedd yn aros ger fy mron," medd yr ARGLWYDD.
23Sut y gelli ddweud, 'Nid wyf wedi fy halogi, na mynd ar �l Baalim?' Gw�l dy ffordd yn y glyn; ystyria beth a wnaethost. Camel chwim ydwyt, yn gwibio'n ddi-drefn yn ei llwybrau;
24asen wyllt, a'i chynefin yn yr anialwch, yn ei blys yn ffroeni'r gwynt. Pwy a atal ei nwyd? Ni flina'r un sy'n ei chwennych; fe'i c�nt yn ei hamser.
25Cadw dy droed rhag noethni, a'th lwnc rhag syched. Ond dywedaist, 'Nid oes gobaith. Mi gerais estroniaid ac ar eu h�l hwy yr af.'
26Fel cywilydd lleidr wedi ei ddal y cywilyddia tu375? Israel � hwy, eu brenhinoedd, a'u tywysogion, eu hoffeiriaid a'u proffwydi.
27Dywedant wrth bren, 'Ti yw fy nhad', ac wrth garreg, 'Ti a'm cenhedlodd'. Troesant ataf wegil, ac nid wyneb; ond yn awr eu hadfyd dywedant, 'Cod, achub ni'.
28Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti? Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd. Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus �'th ddinasoedd, O Jwda.
29Pam yr ydych yn dadlau � mi? Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch," medd yr ARGLWYDD.
30Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd. Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.
31Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD. Ai anialwch a f�m i Israel, neu wlad tywyllwch? Pam y dywed fy mhobl, 'Yr ydym ni'n rhydd; ni ddown mwyach atat ti'?
32A anghofia geneth ei thlysau, neu briodferch ei rhubanau? Eto y mae fy mhobl wedi fy anghofio i, ddyddiau di-rif.
33Mor dda yr wyt yn dewis dy ffordd i geisio cariadon, gan ddysgu dy ffyrdd hyd yn oed i ferched drwg.
34Cafwyd ym mhlygion dy wisg waed einioes tlodion diniwed � ac nid yn torri i mewn y deliaist hwy �
35ond er hyn i gyd, yr wyt yn dweud, 'Rwy'n ddieuog; fe dry ei lid oddi wrthyf.' Ond wele, fe'th ddygaf i farn am iti ddweud, 'Ni phechais.'
36Mor ddi-hid wyt yn newid dy ffordd; fe'th gywilyddir gan yr Aifft, fel y cywilyddiwyd di gan Asyria.
37Doi allan oddi yno hefyd, a'th ddwylo ar dy ben, oherwydd gwrthoda'r ARGLWYDD y rhai yr ymddiriedi ynddynt, ac ni lwyddi drwyddynt.