Jeremeia 20:1-18 BCN1988 - Bible AI

1Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhu375?'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn,

2trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhu375?'r ARGLWYDD.

3Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, "Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw.

4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele fi'n dy wneud yn ddychryn i ti dy hun ac i bawb o'th geraint. Syrthiant wrth gleddyf eu gelynion, a thithau'n gweld. Rhof hefyd holl Jwda yng ngafael brenin Babilon, i'w caethgludo i Fabilon a'u taro �'r cleddyf.

5Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon.

6A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy du375?, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu � ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.'"

7Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd. Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi. Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd, a phawb yn fy ngwatwar.

8Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf, "Trais! Anrhaith!" yw fy llef. Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.

9Os dywedaf, "Ni soniaf amdano, ac ni lefaraf mwyach yn ei enw", y mae yn fy nghalon yn llosgi fel t�n wedi ei gau o fewn fy esgyrn. Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.

10Clywais sibrwd gan lawer � dychryn-ar-bob-llaw: "Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!" Y mae pawb a fu'n heddychlon � mi yn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud, "Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno."

11Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi, fel rhyfelwr cadarn; am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant, ac nid anghofir fyth eu gwarth.

12O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn, ac yn gweld y galon a'r meddwl; rho imi weld dy ddialedd arnynt, canys dadlennais i ti fy nghwyn.

13Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD. Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.

14Melltith ar y dydd y'm ganwyd; na fendiger y dydd yr esgorodd fy mam arnaf.

15Melltith ar y gu373?r aeth �'r neges i'm tad, "Ganwyd mab i ti", a rhoi llawenydd mawr iddo.

16Bydded y gu373?r hwnnw fel y dinasoedd a ddymchwelodd yr ARGLWYDD yn ddiarbed. Bydded iddo glywed gwaedd yn y bore, a bloedd am hanner dydd,

17oherwydd na laddwyd mohonof yn y groth, ac na fu fy mam yn fedd i mi, a'i chroth yn feichiog arnaf byth.

18Pam y deuthum allan o'r groth, i weld trafferth a gofid, a threulio fy nyddiau mewn gwarth?

e>