1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dos i waered i du375? brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn:
2'Clyw air yr ARGLWYDD, frenin Jwda, sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, tydi a'th weision a'th bobl sy'n tramwy trwy'r pyrth hyn.
3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwnewch farn a chyfiawnder; achubwch yr ysbeiliedig o afael y gormeswr. Peidiwch � gwneud cam na niwed i'r dieithr, na'r amddifad na'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y lle hwn.
4Os yn wir y cyflawnwch y gair hwn, daw trwy byrth y tu375? hwn frenhinoedd yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn teithio mewn cerbydau ac yn marchogaeth ar feirch, pob un �'i weision a'i bobl.
5Ond os na wrandewch ar y geiriau hyn, af ar fy llw, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tu375? hwn yn anghyfannedd.
6Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth du375? brenin Jwda: Rwyt i mi fel Gilead, a chopa Lebanon; ond fe'th wnaf yn ddiffeithwch ac yn ddinas anghyfannedd.
7Neilltuaf ddinistrwyr yn dy erbyn, pob un �'i arfau; fe dorrant dy gedrwydd gorau, a'u bwrw i'r t�n.
8Bydd cenhedloedd lawer yn mynd heibio i'r ddinas hon, a phob un yn dweud wrth ei gilydd, "Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn �'r ddinas fawr hon?"
9Ac atebant, "Oherwydd iddynt gefnu ar gyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau eraill, a'u gwasanaethu."'"
10Peidiwch ag wylo dros y marw, na gofidio amdano; wylwch yn wir dros yr un sy'n mynd ymaith, oherwydd ni ddychwel mwyach, na gweld gwlad ei enedigaeth.
11Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum, mab Joseia brenin Jwda, a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad: "Aeth allan o'r lle hwn, ac ni ddychwel yma eto;
12bydd farw yn y lle y caethgludwyd ef iddo, ac ni w�l y wlad hon eto."
13Gwae'r sawl a adeilada'i du375? heb gyfiawnder, a'i lofftydd heb farn, gan fynnu gwasanaeth ei gymydog yn rhad, heb roi iddo ddim am ei waith.
14Gwae'r sawl a ddywed, "Adeiladaf i mi fy hun du375? eang ac iddo lofftydd helaeth." Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd, a'i liwio � fermiliwn.
15A wyt yn d'ystyried dy hun yn frenin oherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd? Oni fwytaodd dy dad, ac yfed, gan wneud cyfiawnder a barn, ac yna bu'n dda arno?
16Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus, ac yna bu'n dda arno. "Onid hyn yw f'adnabod i?" medd yr ARGLWYDD.
17Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn, i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.
18Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda: "Ni alarant amdano, a dweud, 'O fy mrawd! O fy ngh�r!' Ni alarant amdano, a dweud, 'O Arglwydd! O Fawrhydi!'
19Fel claddu asyn y cleddir ef � ei lusgo a'i daflu y tu hwnt i byrth Jerwsalem."
20Dring i Lebanon, a gwaedda; yn Basan cod dy lef; bloeddia o Abarim, "Dinistriwyd pawb sy'n dy garu."
21Lleferais wrthyt yn dy wynfyd; dywedaist, "Ni wrandawaf." Dyma dy ffordd o'th ieuenctid, ac ni wrandewaist arnaf.
22Bugeilia'r gwynt dy holl fugeiliaid, ac i gaethiwed yr � dy geraint; yna fe'th gywilyddir a'th waradwyddo am dy holl ddrygioni.
23Ti, sy'n trigo yn Lebanon, ac a fagwyd rhwng y cedrwydd, O fel y llefi pan ddaw arnat wewyr, pangfeydd fel gwraig yn esgor!
24Cyn wired �'m bod yn fyw," medd yr ARGLWYDD, "pe byddai Coneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, yn fodrwy ar fy llaw dde, fe'th dynnwn di oddi yno,
25a'th roi yng ngafael y rhai sy'n ceisio dy einioes, ac yng ngafael y rhai yr wyt yn ofni rhagddynt, sef yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yn llaw y Caldeaid.
26Fe'th fwriaf di, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr lle ni'ch ganwyd, ac yno byddwch farw.
27Ni ddychwelant i'r wlad yr hiraethant am ddychwelyd iddi."
28Ai llestr dirmygus, drylliedig yw'r dyn hwn, Coneia, teclyn heb ddim hoffus ynddo? Pam y bwriwyd hwy ymaith, ef a'i had, a'u taflu i wlad nad adwaenant?
29Wlad! Wlad! Wlad! Clyw air yr ARGLWYDD.
30Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Cofrestrwch y gu373?r hwn yn ddi-blant, gu373?r na lwydda ar hyd ei oes; canys ni lwydda neb o'i had ef i eistedd ar orsedd Dafydd, na llywodraethu eto yn Jwda."