Jeremeia 25:1-38 BCN1988 - Bible AI

1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda ym mhedwaredd flwyddyn Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a blwyddyn gyntaf Nebuchadnesar brenin Babilon.

2Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud,

3o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch.

4Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando,

5pan ddywedwyd, 'Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd.

6Peidiwch � mynd ar �l duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch �'m digio � gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.'

7Ond ni wrandawsoch arnaf," medd yr ARGLWYDD, "ond fy nigio � gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.

8Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,

9yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,' medd yr ARGLWYDD, 'ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth.

10Ataliaf o'u plith bob sain hyfryd a llawen, sain priodfab a phriodferch, sain meini melin yn malu, a golau llusern.

11Bydd yr holl wlad hon yn ddiffaith ac yn ddychryn, a bydd y cenhedloedd hyn yn gwasanaethu brenin Babilon am ddeng mlynedd a thrigain.

12Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,' medd yr ARGLWYDD, 'a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth.

13Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

14Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn �l eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.'"

15Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: "Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt.

16Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian, ac yn gwallgofi oherwydd y cleddyf a anfonaf i'w plith."

17Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt:

18Jerwsalem a dinasoedd Jwda, ei brenhinoedd a'i thywysogion, i'w gwneud yn ddiffeithwch, yn ddychryn, yn syndod, ac yn felltith, fel y maent heddiw;

19hefyd Pharo brenin yr Aifft, a'i weision a'i dywysogion a'i holl bobl,

20a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod;

21Edom a Moab a phobl Ammon;

22holl frenhinoedd Tyrus a holl frenhinoedd Sidon, a brenhinoedd yr ynysoedd dros y m�r;

23Dedan a Tema a Bus; pawb sydd �'u talcennau'n foel;

24holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch;

25holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media;

26holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar �l y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach a gaiff yfed ar eu h�l hwy.

27Dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.'

28Os gwrthodant gymryd y cwpan o'th law i'w yfed, yna dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Y mae'n rhaid ei yfed.

29Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.'

30Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud, 'Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder; o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef; rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle; gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin, yn erbyn holl breswylwyr y tir.

31Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd, canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd, ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd, ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.'"

32Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall; cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.

33Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear."

34Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch; ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd; canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru, ac fe gwympwch fel llydnod dethol.

35Collir lloches gan y bugeiliaid, a dihangfa gan bendefigion y praidd.

36Clyw gri'r bugeiliaid, a n�d pendefigion y praidd! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;

37dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.

38Fel llew, gadawodd ei loches; aeth eu tir yn anghyfannedd gan lid gorthrymwr, a llid digofaint yr ARGLWYDD.

e>