Jeremeia 33:1-26 BCN1988 - Bible AI

1Daeth gair yr ARGLWYDD yr ail waith at Jeremeia tra oedd yn dal wedi ei gaethiwo yng nghyntedd y gwarchodlu, a dweud,

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, a wnaeth y ddaear, a'i llunio i'w sefydlu (yr ARGLWYDD yw ei enw):

3'Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.'

4Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am dai'r ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y tai a dynnir i lawr oherwydd y cloddiau gwarchae, ac oherwydd y cleddyf:

5'Daw'r Caldeaid i ymladd, a'u llenwi � chelanedd y dynion a drawaf yn fy llid a'm digofaint; cuddiais fy wyneb oddi wrth y ddinas hon oherwydd eu holl ddrygioni.

6Dygaf iddi yn awr wellhad a meddyginiaeth; iach�f hwy, a dangos iddynt dymor o heddwch a diogelwch.

7Adferaf lwyddiant Jwda a llwyddiant Israel; adeiladaf hwy fel yn y dechreuad.

8Glanhaf hwy o'r holl ddrygioni a wnaethant yn f'erbyn, a maddeuaf yr holl gamweddau a wnaethant yn f'erbyn.

9Bydd y ddinas imi'n enw llawen, yn glod a gogoniant i holl genhedloedd y ddaear pan glywant am yr holl ddaioni a wnaf iddi; ac ofnant a chrynant oherwydd yr holl ddaioni a'r holl heddwch a wnaf iddi.'

10Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y lle hwn, y dywedwch amdano ei fod wedi ei ddifodi, heb ddyn nac anifail; ac am ddinasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, sy'n ddiffeithle, heb bobl na phreswylwyr a heb anifail:

11'Clywir eto ynddynt su373?n gorfoledd a llawenydd, sain priodfab a sain priodferch, llais rhai'n dweud, "Molwch ARGLWYDD y Lluoedd, oherwydd da yw'r ARGLWYDD, oherwydd y mae ei gariad hyd byth." A dygant offrwm diolch i du375?'r ARGLWYDD; oherwydd adferaf eu llwyddiant yn y wlad fel yn y dechreuad,' medd yr ARGLWYDD.

12Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd eto yn y lle hwn sydd wedi ei ddifrodi, heb ddyn nac anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, fannau gorffwys i'r bugeiliaid a chorlannau i'r praidd.

13Yn ninasoedd y mynydd-dir a dinasoedd y Seffela a dinasoedd y Negef, yn nhiriogaeth Benjamin ac o amgylch Jerwsalem ac yn ninasoedd Jwda, bydd eto braidd yn symud trwy ddwylo'r sawl fydd yn rhifo,' medd yr ARGLWYDD.

14Y mae'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "y cyflawnaf y gair daionus a addewais i du375? Israel ac i du375? Jwda.

15Yn y dyddiau hynny, yn yr adeg honno, paraf i flaguryn cyfiawnder flaguro i Ddafydd, ac fe wna ef farn a chyfiawnder yn y wlad.

16Yn y dyddiau hynny achubir Jwda, a bydd Jerwsalem yn ddiogel, a dyma'r enw a roddir iddi: 'Yr ARGLWYDD yw ein cyfiawnder.'

17Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Ni fydd Dafydd byth heb u373?r yn eistedd ar orsedd tu375? Israel;

18ac ni fydd yr offeiriaid o Lefiaid byth heb u373?r yn fy ngu373?ydd yn offrymu poethoffrwm, ac yn offrymu bwydoffrwm, ac yn aberthu.'"

19Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

20Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Os gallwch ddiddymu fy nghyfamod �'r dydd, a'm cyfamod �'r nos, fel na bydd dydd na nos yn eu pryd,

21yna gellir diddymu fy nghyfamod �'m gwas Dafydd, fel na bydd iddo fab yn teyrnasu ar ei orsedd, a hefyd fy nghyfamod �'r offeiriaid o Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.

22Fel na ellir cyfrif llu'r nefoedd na mesur tywod y m�r, felly yr amlhaf epil fy ngwas Dafydd, a'r Lefiaid sy'n gweinyddu i mi.'"

23Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

24Oni sylwaist beth y mae'r bobl hyn yn ei lefaru, gan ddweud, 'Y mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau dylwyth a ddewisodd'? Felly y dirmygant fy mhobl, ac nid ydynt mwyach yn genedl yn eu gu373?ydd.

25Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Pan fydd fy nghyfamod �'r dydd a'r nos yn peidio � sefyll, a threfn y nefoedd a'r ddaear,

26yna gwrthodaf gymryd rhai o had Jacob, a'm gwas Dafydd, i lywodraethu ar had Abraham ac Isaac a Jacob. Adferaf hwy, a byddaf drugarog wrthynt.'"

e>