Jeremeia 47:1-7 BCN1988 - Bible AI

1Dyma air yr ARGLWYDD a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynghylch y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa.

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele , y mae dyfroedd yn tarddu o'r gogledd, ac yn llifeirio'n ffrwd gref; llifant dros y wlad a'i chynnwys, ei dinasoedd a'u preswylwyr. Y mae'r bobl yn gweiddi a holl breswylwyr y wlad yn udo,

3oherwydd su373?n carnau ei feirch yn curo, ac oherwydd trwst ei gerbydau a thwrf yr olwynion. Ni thry'r rhieni'n �l i edrych am y plant; gwanychodd eu dwylo gymaint.

4Daeth y dydd i ddinistrio yr holl Philistiaid, i dorri allan o Tyrus ac o Sidon bob un sy'n aros i'w cynorthwyo. Dinistria'r ARGLWYDD y Philistiaid, gweddill ynystir Cafftor.

5Daeth moelni ar Gasa, a dinistriwyd Ascalon. Ti, weddill yr Anacim, pa hyd yr archolli dy hun?

6O gleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd y byddi heb ymlonyddu? Dychwel i'th wain; gorffwys, a bydd dawel.

7Pa fodd yr ymlonydda, gan i'r ARGLWYDD ei orchymyn? Yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y m�r y gosododd ef.'"

>